xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Caiff Gweinidogion Cymru wneud cynigion o dan yr adran hon—
(a)i un neu fwy o ysgolion cymunedol neu arbennig cymunedol newydd gael eu sefydlu gan awdurdod lleol i ddarparu addysg uwchradd sy’n addas at anghenion disgyblion chweched dosbarth (ac nid unrhyw addysg uwchradd arall);
(b)ar gyfer newid a ddisgrifir ym mharagraff 6 o Atodlen 2 i un neu fwy o ysgolion a gynhelir;
(c)i derfynu un neu fwy o ysgolion a gynhelir sy’n darparu addysg uwchradd sy’n addas at anghenion disgyblion chweched dosbarth (ac nid unrhyw addysg uwchradd arall).
(2)Mae “disgybl chweched dosbarth” yn berson sydd dros oedran ysgol gorfodol ond o dan 19 oed.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 71 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I2A. 71 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(d)
(1)Cyn cyhoeddi cynigion a wneir o dan adran 71, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ynglyn â’r cynigion yn unol â’r cod a ddyroddwyd o dan adran 38(1) ac sydd mewn grym am y tro.
(2)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi cynigion a wneir o dan adran 71 yn unol â’r cod a ddyroddwyd o dan adran 38(1) ac sydd mewn grym am y tro.
(3)Caiff unrhyw berson wrthwynebu’r cynigion.
(4)Rhaid i wrthwynebiadau gael eu hanfon yn ysgrifenedig at Weinidogion Cymru cyn diwedd 28 o ddiwrnodau gan ddechrau ar y diwrnod y cyhoeddwyd y cynigion.
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 72 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I4A. 72 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(d)
(1)Ar ôl diwedd yr 28 o ddiwrnodau y cyfeiriwyd atynt yn adran 72(4), rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu a ddylid—
(a)mabwysiadu’r cynigion, gydag addasiadau neu hebddynt, neu
(b)tynnu’r cynigion yn eu hôl.
(2)Wrth wneud penderfyniad o dan is-adran (1), rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i unrhyw wrthwynebiadau a wnaed yn unol ag adran 72(4) ac sydd heb gael eu tynnu’n ôl.
(3)Cyn mabwysiadu cynigion yn ddarostyngedig i addasiadau, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau y maent yn credu eu bod yn briodol.
(4)Caniateir i fabwysiad cynigion ddatgan mai dim ond os bydd digwyddiad a bennir yn y mabwysiad yn digwydd erbyn dyddiad a bennir felly, y byddai’n dod yn weithredol.
(5)Os na fydd y digwyddiad yn digwydd erbyn y dyddiad penodedig rhaid i Weinidogion Cymru ailystyried eu penderfyniad o dan is-adran (1).
(6)Caiff Gweinidogion Cymru dynnu eu cynigion yn ôl ar unrhyw bryd cyn iddynt wneud penderfyniad o dan is-adran (1).
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 73 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I6A. 73 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(d)