Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 Nodiadau Esboniadol

Adran 94 – Dyletswydd corff llywodraethu ysgol a gynhelir i gynnal cyfarfodydd yn dilyn deiseb gan rieni

109.Mae’r adran hon yn darparu bod rhaid i gorff llywodraethu gynnal cyfarfod os bodlonir y pedwar amod isod -

  • mae wedi cael deiseb yn gofyn am gyfarfod gan ba un bynnag o’r canlynol yw’r nifer isaf:

    • rhieni 10% o’r disgyblion cofrestredig, neu;

    • rhieni 30 o ddisgyblion cofrestredig;

  • diben y cyfarfod yw trafod mater sy’n ymwneud â’r ysgol;

  • ni fydd mwy na thri chyfarfod o’r fath mewn blwyddyn ysgol; a

  • mae digon o ddiwrnodau ysgol ar ôl yn y flwyddyn ysgol er mwyn cynnal y cyfarfod.

110.Ar ôl cael cais rhaid i'r corff llywodraethu hysbysu rhieni’r disgyblion cofrestredig yn yr ysgol am ddyddiad a diben y cyfarfod a rhaid iddo gynnal y cyfarfod o fewn 25 o ddiwrnodau (fel y cânt eu cyfrifo yn unol ag is-adran (9) a (10)) ar ôl cael y ddeiseb.

111.Rhaid i'r corff llywodraethu roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ar sut y mae i gyflawni ei ddyletswydd yn yr adran hon.

Back to top