xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Mae’r adran hon yn gymwys i is-ddeddfau a wneir gan awdurdod deddfu o dan y deddfiadau a restrir yn Rhan 1 o Atodlen 1, gan gynnwys is-ddeddfau sy’n diwygio neu’n dirymu is-ddeddfau a wnaed ganddo’n flaenorol.
(2)Cyn iddo wneud is-ddeddf, rhaid i awdurdod –
(a)cyhoeddi datganiad ysgrifenedig cychwynnol ar wefan yr awdurdod sy’n disgrifio’r mater y mae’r awdurdod o’r farn y gallai gwneud is-ddeddf fynd i’r afael ag ef;
(b)ymgynghori ag unrhyw berson (gan gynnwys cyngor cymuned pan fo hynny’n gymwys) y mae’r awdurdod o’r farn ei fod yn debygol o fod â diddordeb yn y mater neu’n cael eu heffeithio ganddo.
(3)Yn dilyn yr ymgynghoriad, rhaid i’r awdurdod ystyried yr ymatebion a phenderfynu ai gwneud is-ddeddf yw’r dull mwyaf priodol o fynd i’r afael â’r mater.
(4)Yna rhaid i’r awdurdod gyhoeddi ail ddatganiad ysgrifenedig ar ei wefan sy’n cynnwys –
(a)y datganiad ysgrifenedig cychwynnol;
(b)crynodeb o’r ymgynghoriad a’r ymatebion;
(c)ei benderfyniad;
(d)y rhesymau am y penderfyniad hwnnw.
(5)O leiaf chwe wythnos cyn bod yr is-ddeddf yn cael ei gwneud, rhaid cyhoeddi hysbysiad o’r bwriad i wneud yr is-ddeddf –
(a)mewn un neu fwy o bapurau newyddion lleol sy’n cylchredeg yn yr ardal y mae’r is-ddeddf i fod yn gymwys iddi;
(b)ar wefan yr awdurdod.
(6)Am o leiaf chwe wythnos cyn bod yr is-ddeddf yn cael ei gwneud, rhaid i’r awdurdod sicrhau –
(a)bod drafft o’r is-ddeddf yn cael ei gyhoeddi ar wefan yr awdurdod;
(b)bod copi o’r drafft yn cael ei adneuo mewn man yn ardal yr awdurdod;
(c)bod copi ar gael i’w weld gan y cyhoedd ar bob adeg resymol yn ddi-dâl;
(d)pan fo’n gymwys, bod copi yn cael ei anfon at bob cyngor cymuned y mae’r awdurdod o’r farn ei bod yn debygol yr effeithir ar ei ardal gan yr is-ddeddf.
(7)Rhaid i’r awdurdod roi copi o’r is-ddeddf ar ffurf ddrafft i unrhyw berson sy’n gwneud cais amdano, ar yr amod bod y person hwnnw’n talu ffi resymol a godir gan yr awdurdod (os oes un).
(8)Ni chaiff awdurdod wneud is-ddeddf yn hwyrach na 6 mis ar ôl dyddiad yr hysbysiad yn is-adran (5).
(1)Mae’r adran hon yn gymwys i is-ddeddfau a wneir gan awdurdod deddfu o dan unrhyw ddeddfiad ar wahân i’r rhai a restrir yn Rhan 1 o Atodlen 1, gan gynnwys is-ddeddfau sy’n diwygio neu’n dirymu is-ddeddfau a wnaed ganddo’n flaenorol.
(2)Ond nid yw’r adran hon yn gymwys i’r graddau bod y deddfiad sy’n rhoi’r pŵer i wneud is-ddeddf yn gwneud darpariaeth wahanol mewn perthynas ag un neu ragor o’r canlynol –
(a)gofyniad i gyflwyno is-ddeddfau ar gyfer cael cadarnhad;
(b)cyhoeddi hysbysiad o fwriad i wneud yr is-ddeddf;
(c)cyhoeddi’r is-ddeddf;
(d)trefnu bod copïau o’r is-ddeddf ar gael.
(3)Cyn iddo wneud is-ddeddf y mae’r adran hon yn gymwys iddi, rhaid i awdurdod –
(a)cyhoeddi ar wefan yr awdurdod ddatganiad ysgrifenedig cychwynnol sy’n disgrifio’r mater y mae’r awdurdod o’r farn y gellir mynd i’r afael ag ef drwy wneud is-ddeddf;
(b)ymgynghori ag unrhyw berson (gan gynnwys cyngor cymuned pan fo’n gymwys) y mae’r awdurdod o’r farn ei fod yn debygol o fod â diddordeb yn y mater neu’n gael ei effeithio ganddo.
(4)Yn dilyn yr ymgynghoriad, rhaid i’r awdurdod ystyried yr ymatebion a phenderfynu ai gwneud is-ddeddf yw’r dull mwyaf priodol o fynd i’r afael â’r mater.
(5)Yna rhaid i’r awdurdod gyhoeddi ail ddatganiad ysgrifenedig ar ei wefan sy’n cynnwys –
(a)y datganiad ysgrifenedig cychwynnol;
(b)crynodeb o’r ymgynghoriad a’r ymatebion;
(c)ei benderfyniad;
(d)y rhesymau am y penderfyniad hwnnw.
(6)Rhaid i is-ddeddfau a wnaed gan yr awdurdod deddfu gael eu cyflwyno i’r awdurdod cadarnhau ac nid ydynt yn cael effaith oni chânt a nes y cânt eu cadarnhau gan yr awdurdod cadarnhau.
(7)O leiaf chwe wythnos cyn cyflwyno is-ddeddf ar gyfer cael cadarnhad, rhaid cyhoeddi hysbysiad o fwriad yr awdurdod deddfu i wneud hynny –
(a)mewn un neu fwy o bapurau newyddion lleol sy’n cylchredeg yn yr ardal y mae’r is-ddeddf i fod yn gymwys iddi;
(b)ar wefan yr awdurdod.
(8)Am o leiaf chwe wythnos cyn cyflwyno’r is-ddeddf ar gyfer cael cadarnhad, rhaid i’r awdurdod deddfu sicrhau –
(a)bod yr is-ddeddf yn cael ei chyhoeddi ar wefan yr awdurdod;
(b)bod copi o’r is-ddeddf yn cael ei adneuo mewn man yn ardal yr awdurdod (ac, yn achos is-ddeddf a wnaed gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru o dan Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949, mewn man yn ardal pob cyngor ar gyfer sir neu fwrdeistref sirol mae’r is-ddeddf yn gymwys i’w ardal);
(c)pan fo’n gymwys, bod copi yn cael ei anfon at bob cyngor cymuned y mae’r awdurdod o’r farn ei bod yn debygol yr effeithir ar ei ardal gan yr is-ddeddf;
(d)bod copi ar gael i’w weld gan y cyhoedd ar bob adeg resymol yn ddi-dâl.
(9)Rhaid i’r awdurdod deddfu roi copi o’r is-ddeddf i unrhyw berson sy’n gwneud cais amdano ar yr amod bod y person hwnnw’n talu ffi resymol a godir gan yr awdurdod (os oes un).
(10)Caiff yr awdurdod cadarnhau gadarnhau, neu wrthod cadarnhau, unrhyw is-ddeddf a gyflwynir iddo o dan yr adran hon.
(11)At ddibenion y Ddeddf hon, yr awdurdod cadarnhau yw –
(a)y person a bennir yn y deddfiad y gwneir yr is-ddeddfau odano fel y person sydd i gadarnhau’r is-ddeddfau, neu
(b)os na phennir unrhyw berson, Gweinidogion Cymru.
(12)Mae swyddogaethau Gweinidogion Cymru o dan is-adran (11)(b) yn arferadwy yn gydredol â’r Ysgrifennydd Gwladol.
(1)Mae’r adran hon yn gymwys i is-ddeddfau a wnaed gan awdurdod deddfu o dan unrhyw ddeddfiad.
(2)Ond nid yw’r adran hon yn gymwys i’r graddau bod y deddfiad sy’n rhoi’r pŵer i wneud is-ddeddf yn gwneud darpariaeth wahanol mewn perthynas ag un neu ragor o’r canlynol –
(a)llofnodi’r is-ddeddf neu roi sêl arni;
(b)cyhoeddi’r is-ddeddf;
(c)trefnu bod copïau o’r is-ddeddf ar gael.
(3)Rhaid i is-ddeddfau a wneir gan awdurdod deddfu gael eu gwneud o dan sêl gyffredin yr awdurdod, neu, yn achos is-ddeddfau a wneir gan gyngor cymuned nad oes sêl ganddo, wedi’i lofnodi gan ddau aelod o’r cyngor.
(4)Mae is-ddeddfau yn dod yn effeithiol ar y dyddiad a bennir gan yr awdurdod deddfu, neu, os oes angen eu cadarnhau, y dyddiad a bennir gan yr awdurdod cadarnhau. Os na phennir dyddiad, maent yn dod yn effeithiol ar ddiwedd un mis ar ôl y dyddiad y’u gwnaed (neu’r dyddiad y’u cadarnhawyd, fel y bo’n gymwys).
(5)Rhaid i’r awdurdod deddfu sy’n gwneud yr is-ddeddf –
(a)cyhoeddi’r is-ddeddf pan wnaed hi ar wefan yr awdurdod, neu os oes angen iddi gael ei chadarnhau, pan gafodd ei chadarnhau;
(b)adneuo copi o’r is-ddeddf mewn man yn ardal yr awdurdod;
(c)sicrhau bod y copi ar gael i’w weld gan y cyhoedd ar bob adeg resymol yn ddi-dâl;
(d)rhoi copi o’r is-ddeddf i unrhyw berson sy’n gwneud cais amdano, ar yr amod bod y person hwnnw’n talu ffi resymol a godir gan yr awdurdod (os oes un).
(6)Rhaid i swyddog priodol cyngor bwrdeistref sirol neu gyngor sir yng Nghymru anfon copi o is-ddeddf cyn gynted â’i bod wedi ei gwneud, neu pan fo’n ofynnol cyn gynted â’i bod wedi ei chadarnhau, at swyddog priodol cyngor pob cymuned y mae’r is-ddeddf yn gymwys iddi.
(7)Yn achos is-ddeddfau a wnaed gan awdurdod Parc Cenedlaethol, rhaid i swyddog priodol yr awdurdod anfon copi o is-ddeddf cyn gynted â’i bod wedi ei gwneud, neu pan fo’n ofynnol cyn gynted â’i bod wedi ei chadarnhau, at swyddog priodol –
(a)cyngor pob bwrdeistref sirol neu sir y mae ei ardal yn cynnwys y cyfan neu ran o’r Parc Cenedlaethol;
(b)cyngor pob cymuned y mae ei ardal yn cynnwys y cyfan neu ran o’r Parc Cenedlaethol.
(8)Yn achos is-ddeddfau a wnaed gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru o dan Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949, rhaid i’r Cyngor sicrhau ei fod yn anfon copi o is-ddeddf cyn gynted â’i bod wedi ei gwneud, neu pan fo’n ofynnol cyn gynted â’i bod wedi ei chadarnhau, at swyddog priodol –
(a)cyngor pob bwrdeistref sirol neu sir y mae’r is-ddeddf yn gymwys i’w ardal;
(b)cyngor pob cymuned y mae’r is-ddeddf yn gymwys i’w ardal.
(9)Rhaid i swyddog priodol y cyngor cymuned –
(a)trefnu bod copi o’r is-ddeddf a anfonwyd at y swyddog yn cael ei adneuo gyda dogfennau cyhoeddus y gymuned;
(b)sicrhau bod y copi ar gael i’w weld gan y cyhoedd ar bob adeg resymol yn ddi-dâl.
(10)Yn is-adrannau (6) i (9) y “swyddog priodol” yw’r swyddog a awdurdodwyd yn briodol at y diben hwnnw gan y corff hwnnw.
Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn ddiwygio Rhan 1 o Atodlen 1 (isddeddfau pan na fo cadarnhad yn ofynnol) drwy ychwanegu at y rhestr o ddeddfiadau neu dynnu oddi arni, neu drwy ddiwygio’r math o awdurdod a gaiff wneud is-ddeddfau heb iddynt gael eu cadarnhau.