Rhagolygol
(1)Mae’r adran hon yn gymwys os bydd unrhyw un o ddigwyddiadau terfynu cynnar A, B neu C yn digwydd ar unrhyw adeg ar ôl i hysbysiad y Llywydd gael ei roi ond cyn i ganlyniad y pôl adalw gael ei gyhoeddi yn unol ag adran 12(2).
(2)Digwyddiad terfynu cynnar A ywbod y Llywydd wedi cynnig diwrnod ar gyfer cynnal pôl mewn etholiad cyffredinol eithriadol yn unol ag adran 5(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
(3)Digwyddiad terfynu cynnar B yw bod sedd yr Aelod o’r Senedd yn dod yn wag.
(4)Digwyddiad terfynu cynnar C yw, mewn achos pan ddigwyddodd digwyddiad sbardun A mewn perthynas â’r Aelod o’r Senedd, fod yr euogfarn, y ddedfryd neu’r gorchymyn o dan sylw yn cael ei gwrthdroi neu ei wrthdroi ar apêl (o fewn ystyr adran 4(7)).
(5)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl dod yn ymwybodol bod yr adran hon yn gymwys, rhaid i’r Llywydd hysbysu’r swyddog canlyniadau etholaethol ar gyfer etholaeth Senedd yr Aelod o’r Senedd sy’n destun y pôl adalw fod yr adran yn gymwys, gan bennu pa un o’r digwyddiadau terfynu cynnar sydd wedi digwydd.
(6)Pan fo swyddog canlyniadau etholaethol yn cael hysbysiad o dan is-adran (5), nid oes unrhyw gamau pellach i’w cymryd o dan neu yn rhinwedd y Ddeddf hon mewn perthynas â’r broses sy’n ymwneud â’r pôl adalw ac eithrio—
(a)y camau sy’n ofynnol o dan is-adran (7), a
(b)unrhyw gamau a allai fod yn ofynnol neu a ganiateir gan reoliadau o dan adran 11 mewn perthynas â therfynu’r broses honno.
(7)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cael hysbysiad o dan is-adran (5), rhaid i’r swyddog canlyniadau etholaethol—
(a)cymryd unrhyw gamau y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn angenrheidiol i derfynu’r broses sy’n ymwneud â’r pôl adalw, a
(b)rhoi hysbysiad cyhoeddus bod y broses honno wedi ei therfynu yn unol ag unrhyw ddarpariaeth a wneir drwy reoliadau o dan adran 11.
(8)Ac eithrio mewn achos pan fo’r adran hon yn gymwys yn rhinwedd digwyddiad terfynu cynnar A a bod Senedd Cymru wedi ei diddymu, rhaid i’r Llywydd osod unrhyw hysbysiad a roddir o dan is-adran (5) gerbron Senedd Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 26(3)