Rhagolygol

RHAN 1LL+CADALW AELODAU O’R SENEDD

Dyddiad pôl adalw a hysbysiadLL+C

7Hysbysiad cyhoeddus o bôl adalwLL+C

(1)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cael hysbysiad yn unol ag adran 6, rhaid i swyddog canlyniadau etholaethol roi hysbysiad cyhoeddus o’r pôl adalw yn unol ag unrhyw ddarpariaeth a wneir drwy reoliadau o dan adran 11.

(2)Yn ogystal, rhaid i’r swyddog canlyniadau etholaethol anfon hysbysiad o’r pôl adalw yn unol ag unrhyw ddarpariaeth a wneir drwy reoliadau o dan adran 11—

(a)at unrhyw ddisgrifiadau o bersonau sydd wedi eu cofrestru yn y cofrestrau o etholwyr llywodraeth leol ar gyfer yr ardaloedd o fewn yr etholaeth Senedd sydd i’w pennu yn y rheoliadau hynny, a

(b)at unrhyw ddisgrifiadau eraill o bersonau a bennir yn y rheoliadau hynny.

(3)Rhaid i reoliadau o dan adran 11 ei gwneud yn ofynnol i’r hysbysiad gynnwys gwybodaeth am y digwyddiad sbardun sydd wedi digwydd mewn perthynas â’r Aelod o’r Senedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 26(3)