RHAN 1ADALW AELODAU O’R SENEDD
Dyddiad pôl adalw a hysbysiad
7Hysbysiad cyhoeddus o bôl adalw
(1)
Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cael hysbysiad yn unol ag adran 6, rhaid i swyddog canlyniadau etholaethol roi hysbysiad cyhoeddus o’r pôl adalw yn unol ag unrhyw ddarpariaeth a wneir drwy reoliadau o dan adran 11.
(2)
Yn ogystal, rhaid i’r swyddog canlyniadau etholaethol anfon hysbysiad o’r pôl adalw yn unol ag unrhyw ddarpariaeth a wneir drwy reoliadau o dan adran 11—
(a)
at unrhyw ddisgrifiadau o bersonau sydd wedi eu cofrestru yn y cofrestrau o etholwyr llywodraeth leol ar gyfer yr ardaloedd o fewn yr etholaeth Senedd sydd i’w pennu yn y rheoliadau hynny, a
(b)
at unrhyw ddisgrifiadau eraill o bersonau a bennir yn y rheoliadau hynny.
(3)
Rhaid i reoliadau o dan adran 11 ei gwneud yn ofynnol i’r hysbysiad gynnwys gwybodaeth am y digwyddiad sbardun sydd wedi digwydd mewn perthynas â’r Aelod o’r Senedd.