Rhagolygol
(1)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl dod yn ymwybodol bod digwyddiad sbardun wedi digwydd mewn perthynas ag Aelod o’r Senedd, rhaid i’r Llywydd—
(a)pennu’r dyddiad ar gyfer y pôl adalw yn unol ag is-adran (4), a
(b)hysbysu’r swyddog canlyniadau etholaethol dros etholaeth Senedd yr aelod yn unol ag is-adran (5).
(2)Ond nid yw is-adran (1) yn gymwys pe bai’n ei gwneud yn ofynnol i’r Llywydd bennu dyddiad ar gyfer y pôl adalw ar adeg—
(a)o fewn y cyfnod o 6 mis sy’n dod i ben â’r diwrnod y byddai’r pôl yn etholiad cyffredinol cyffredin nesaf Senedd Cymru yn cael ei gynnal (gan ddiystyru adran 4 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (“Deddf 2006”)),
(b)ar ôl y diwrnod y byddai’r pôl yn etholiad cyffredinol cyffredin nesaf Senedd Cymru yn cael ei gynnal (gan ddiystyru adran 4 o Ddeddf 2006),
(c)pan fydd yr Aelod o’r Senedd eisoes yn destun pôl adalw, neu
(d)pan fydd sedd yr Aelod o’r Senedd eisoes wedi dod yn wag.
(3)At ddibenion is-adran (2)(c), mae Aelod o’r Senedd “yn destun pôl adalw” yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â rhoi hysbysiad o dan yr adran hon mewn perthynas â’r Aelod o’r Senedd ac yn dod i ben ag—
(a)y swyddog canlyniadau etholaethol yn cael hysbysiad o dan adran 8(5) (terfynu pôl adalw yn gynnar) mewn perthynas â’r pôl adalw o dan sylw, neu
(b)y swyddog canlyniadau etholaethol yn cyhoeddi canlyniad pôl adalw yn unol ag adran 12(2).
(4)Rhaid i’r dyddiad a bennir ar gyfer y pôl adalw fod o fewn y cyfnod o dri mis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r Llywydd yn rhoi hysbysiad o dan yr adran hon.
(5)Rhaid i hysbysiad o dan yr adran hon bennu—
(a)enw’r Aelod o’r Senedd y mae’r digwyddiad sbardun wedi digwydd mewn cysylltiad ag ef,
(b)y dyddiad y’i rhoddir,
(c)pa un o’r ddau fath o ddigwyddiad sbardun sydd wedi digwydd mewn perthynas â’r Aelod o’r Senedd,
(d)gwybodaeth am y digwyddiad sbardun sydd wedi digwydd mewn perthynas â’r Aelod o’r Senedd yn unol ag unrhyw ddarpariaeth a wneir drwy reoliadau o dan adran 11, ac
(e)y dyddiad a bennwyd ar gyfer y pôl adalw.
(6)At ddibenion y Ddeddf hon, mae hysbysiad o dan yr adran hon—
(a)i’w drin fel pe bai’n cael ei roi ar y dyddiad a bennir ynddo o dan is-adran (5)(b), a
(b)i’w drin fel pe bai’r swyddog canlyniadau etholaethol yn ei gael ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl y diwrnod y’i rhoddir.
(7)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at “hysbysiad y Llywydd” yn gyfeiriadau at hysbysiad o dan yr adran hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 26(3)