RHAN 1ADALW AELODAU O’R SENEDD
Dyddiad pôl adalw a hysbysiad
6Dyletswydd y Llywydd i bennu dyddiad ar gyfer pôl adalw a rhoi hysbysiad o ddigwyddiad sbardun
(1)
Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl dod yn ymwybodol bod digwyddiad sbardun wedi digwydd mewn perthynas ag Aelod o’r Senedd, rhaid i’r Llywydd—
(a)
pennu’r dyddiad ar gyfer y pôl adalw yn unol ag is-adran (4), a
(b)
hysbysu’r swyddog canlyniadau etholaethol dros etholaeth Senedd yr aelod yn unol ag is-adran (5).
(2)
Ond nid yw is-adran (1) yn gymwys pe bai’n ei gwneud yn ofynnol i’r Llywydd bennu dyddiad ar gyfer y pôl adalw ar adeg—
(a)
o fewn y cyfnod o 6 mis sy’n dod i ben â’r diwrnod y byddai’r pôl yn etholiad cyffredinol cyffredin nesaf Senedd Cymru yn cael ei gynnal (gan ddiystyru adran 4 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (“Deddf 2006”)),
(b)
ar ôl y diwrnod y byddai’r pôl yn etholiad cyffredinol cyffredin nesaf Senedd Cymru yn cael ei gynnal (gan ddiystyru adran 4 o Ddeddf 2006),
(c)
pan fydd yr Aelod o’r Senedd eisoes yn destun pôl adalw, neu
(d)
pan fydd sedd yr Aelod o’r Senedd eisoes wedi dod yn wag.
(3)
At ddibenion is-adran (2)(c), mae Aelod o’r Senedd “yn destun pôl adalw” yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â rhoi hysbysiad o dan yr adran hon mewn perthynas â’r Aelod o’r Senedd ac yn dod i ben ag—
(a)
y swyddog canlyniadau etholaethol yn cael hysbysiad o dan adran 8(5) (terfynu pôl adalw yn gynnar) mewn perthynas â’r pôl adalw o dan sylw, neu
(b)
y swyddog canlyniadau etholaethol yn cyhoeddi canlyniad pôl adalw yn unol ag adran 12(2).
(4)
Rhaid i’r dyddiad a bennir ar gyfer y pôl adalw fod o fewn y cyfnod o dri mis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r Llywydd yn rhoi hysbysiad o dan yr adran hon.
(5)
Rhaid i hysbysiad o dan yr adran hon bennu—
(a)
enw’r Aelod o’r Senedd y mae’r digwyddiad sbardun wedi digwydd mewn cysylltiad ag ef,
(b)
y dyddiad y’i rhoddir,
(c)
pa un o’r ddau fath o ddigwyddiad sbardun sydd wedi digwydd mewn perthynas â’r Aelod o’r Senedd,
(d)
gwybodaeth am y digwyddiad sbardun sydd wedi digwydd mewn perthynas â’r Aelod o’r Senedd yn unol ag unrhyw ddarpariaeth a wneir drwy reoliadau o dan adran 11, ac
(e)
y dyddiad a bennwyd ar gyfer y pôl adalw.
(6)
At ddibenion y Ddeddf hon, mae hysbysiad o dan yr adran hon—
(a)
i’w drin fel pe bai’n cael ei roi ar y dyddiad a bennir ynddo o dan is-adran (5)(b), a
(b)
i’w drin fel pe bai’r swyddog canlyniadau etholaethol yn ei gael ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl y diwrnod y’i rhoddir.
(7)
Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at “hysbysiad y Llywydd” yn gyfeiriadau at hysbysiad o dan yr adran hon.