Rhagolygol
(1)Ni chaiff y Pwyllgor Safonau Ymddygiad argymell gwneud Aelod o’r Senedd yn destun pôl adalw oni bai bod canllawiau wedi eu dyroddi yn unol â’r adran hon ynghylch y materion sydd i’w hystyried gan y Pwyllgor wrth ystyried a ddylid argymell gwneud Aelod o’r Senedd yn destun pôl adalw (“canllawiau adalw”).
(2)Cyn i’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad argymell gwneud Aelod o’r Senedd yn destun pôl adalw, rhaid i’r Pwyllgor roi sylw i’r canllawiau adalw.
(3)Os nad oes unrhyw ganllawiau adalw wedi eu dyroddi o dan yr adran hon, rhaid i’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad lunio canllawiau adalw drafft a chynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y drafft.
(4)Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus o dan is-adran (3), rhaid i’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad osod copi o’r canllawiau adalw drafft (gydag addasiadau neu hebddynt) gerbron Senedd Cymru.
(5)Os oes canllawiau adalw wedi eu dyroddi o dan yr adran hon, caiff y Pwyllgor Safonau Ymddygiad lunio canllawiau adalw drafft i’w disodli.
(6)Cyn dyroddi canllawiau adalw sy’n disodli canllawiau sydd wedi eu dyroddi, rhaid i’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar ddrafft o’r canllawiau.
(7)Os yw’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn dymuno bwrw ymlaen â’r drafft (gydag addasiadau neu hebddynt) yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus o dan is-adran (3), rhaid iddo osod copi o’r drafft gerbron Senedd Cymru.
(8)Mewn perthynas â’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad—
(a)ni chaiff ddyroddi canllawiau adalw oni bai bod drafft o’r canllawiau wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan Senedd Cymru, a
(b)rhaid iddo ddyroddi canllawiau adalw os yw drafft o’r canllawiau wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan Senedd Cymru.
(9)Rhaid i’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad ddwyn unrhyw ymgynghoriad cyhoeddus o dan yr adran hon i sylw—
(a)pob Aelod o’r Senedd, a
(b)Comisiynydd Safonau y Senedd.
(10)Wrth lunio canllawiau adalw, rhaid i’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad ystyried cynnwys yn y canllawiau enghreifftiau o ymddygiad neu fathau o ymddygiad a allai olygu bod y Pwyllgor yn argymell gwneud Aelod o’r Senedd yn destun pôl adalw.
(11)Mae canllawiau adalw a ddyroddir yn unol â’r adran hon yn cael effaith (ac yn parhau i gael effaith pan fo Senedd Cymru yn cael ei diddymu) hyd nes y bônt yn cael eu disodli yn unol â’r adran hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 26(3)