RHAN 1ADALW AELODAU O’R SENEDD

Cychwyn pôl adalw

4Digwyddiad sbardun A: y llysoedd i hysbysu’r Llywydd

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys os yw Aelod o’r Senedd, ar ôl dod yn Aelod o’r Senedd, yn cael ei euogfarnu o drosedd yng Nghymru a Lloegr a’i ddedfrydu neu ei orchymyn i gael ei garcharu neu ei gadw’n gaeth o fewn ystyr adran 2(2) (gweler adran 3).

(2)

Rhaid i’r llys sy’n gosod y ddedfryd neu’r gorchymyn mewn perthynas â’r euogfarn hysbysu’r Llywydd am yr euogfarn ac am y ddedfryd neu’r gorchymyn.

(3)

Mae is-adran (4) yn gymwys mewn achos pan ddygir apêl mewn cysylltiad â’r euogfarn, y ddedfryd neu’r gorchymyn (gan gynnwys o lys sy’n penderfynu’r apêl honno neu’n ei gwaredu fel arall).

(4)

Os yw’r euogfarn, y ddedfryd neu’r gorchymyn yn cael ei gwrthdroi neu ei wrthdroi ar apêl, rhaid i’r llys y dygwyd yr apêl iddo neu y’i hanfonwyd iddo gan lys arall hysbysu’r Llywydd am y ffaith honno.

(5)

Mewn perthynas â chyfeiriadau at apêl yn yr adran hon—

(a)

maent yn gyfeiriadau at apêl i lys yng Nghymru a Lloegr (gan gynnwys y Goruchaf Lys);

(b)

maent yn cynnwys cais (ac yn unol â hynny mae cyfeiriadau at apêl yn cael ei dwyn yn cynnwys cais yn cael ei wneud);

(c)

nid ydynt yn cynnwys atgyfeiriad o dan Ran 2 o Ddeddf Apêl Droseddol 1995 (p. 35) (y Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol).

(6)

Mae cyfeiriadau yn yr adran hon at benderfynu apêl, pan fo’r llys y dygir yr apêl iddo yn anfon y mater i lys arall, yn gyfeiriadau at waredu’r achos gan y llys arall hwnnw.

(7)

Yn yr adran hon, ystyr “ei gwrthdroi neu ei wrthdroi ar apêl” yw—

(a)

mewn perthynas ag euogfarn, nad oes euogfarn mwyach at ddibenion adran 2(2);

(b)

mewn perthynas â dedfryd neu orchymyn—

(i)

y’i hamrywir fel nad yw mwyach yn ddedfryd neu’n orchymyn bod yr Aelod o’r Senedd i gael ei garcharu neu ei gadw’n gaeth o fewn ystyr adran 2(2);

(ii)

y’i disodlir gan ddedfryd neu orchymyn arall nad yw’n ddedfryd neu’n orchymyn bod yr Aelod o’r Senedd i gael ei garcharu neu ei gadw’n gaeth o fewn ystyr adran 2(2).

(8)

Nid yw’n ofynnol i lys hysbysu’r Llywydd o dan yr adran hon os yw sedd yr Aelod o’r Senedd, ar unrhyw adeg ers cymhwysiad yr adran, wedi dod yn wag.