RHAN 1ADALW AELODAU O’R SENEDD

Cychwyn pôl adalw

3Digwyddiad sbardun A: ystyr termau allweddol

(1)

Yn adran 2(2) (digwyddiad sbardun A)—

(a)

mae’r cyfeiriad at drosedd yn cynnwys trosedd a gyflawnwyd cyn i’r Aelod o’r Senedd ddod yn Aelod o’r Senedd a throsedd a gyflawnwyd cyn y diwrnod y mae adran 2 yn dod i rym, ond

(b)

nid yw’r cyfeiriad at Aelod o’r Senedd yn cael ei euogfarnu o drosedd ond yn gyfeiriad at Aelod o’r Senedd yn cael ei euogfarnu o drosedd ar neu ar ôl y diwrnod y mae adran 2 yn dod i rym.

(2)

Mewn perthynas â’r cyfeiriad yn adran 2(2) at Aelod o’r Senedd yn cael ei ddedfrydu neu ei orchymyn—

(a)

mae’n cynnwys yr Aelod o’r Senedd yn cael ei ddedfrydu neu ei orchymyn pan fo’r ddedfryd neu’r gorchymyn yn ohiriedig,

(b)

nid yw’n cynnwys yr Aelod o’r Senedd yn cael ei remandio yn y ddalfa, ac

(c)

nid yw’n cynnwys yr Aelod o’r Senedd yn cael ei awdurdodi i gael ei gadw’n gaeth o dan ddeddfwriaeth iechyd meddwl os nad oes dedfryd neu orchymyn ar gyfer carcharu neu gadw’n gaeth heblaw o dan y ddeddfwriaeth honno.

(3)

Ystyr “deddfwriaeth iechyd meddwl” yw—

(a)

Deddf Iechyd Meddwl 1983 (p. 20),

(b)

Rhan 6 neu adran 200(2)(b) o Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Yr Alban) 1995 (p. 46), neu

(c)

Gorchymyn Iechyd Meddwl (Gogledd Iwerddon) 1986 (O.S. 1986/595 (G.I. 4)).

(4)

At ddibenion y Ddeddf hon, yr adeg y mae person yn dod yn Aelod o’r Senedd yw pan ddatgenir bod yr aelod wedi ei ddychwelyd ar ddechrau tymor swydd presennol yr aelod.