RHAN 2SAFONAU YMDDYGIAD AELODAU O’R SENEDD
Comisiynydd Safonau y Senedd
20Pŵer Comisiynydd Safonau y Senedd i ymchwilio ar ei ysgogiad ei hun
(1)
Mae Mesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009 (mccc 4) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2)
“10APŵer y Comisiynydd i ymchwilio ar ei ysgogiad ei hun
(1)
Caiff y Comisiynydd ymchwilio i ymddygiad Aelod o’r Senedd os—
(a)
oes gan y Comisiynydd sail resymol dros amau bod ymddygiad yr aelod, ar adeg berthnasol, wedi methu â chydymffurfio â gofyniad mewn darpariaeth berthnasol, a
(b)
yw’r Comisiynydd yn fodlon bod unrhyw amodau eraill y mae rhaid eu bodloni cyn dechrau ymchwiliad y caniateir eu rhagnodi yn y Rheolau Sefydlog neu mewn rheolau a grybwyllir yn is-adran (3)(b) wedi eu bodloni (er enghraifft rheolau sy’n gosod terfynau amser ar gyfer dechrau ymchwiliad neu reolau ynghylch y gofynion o ran tystiolaeth).
(2)
Os yw’r Comisiynydd yn ymchwilio i ymddygiad Aelod o’r Senedd o dan yr adran hon, rhaid i’r Comisiynydd, yn ddarostyngedig i is-adran (5), gyflwyno adroddiad i’r Senedd ar ganlyniad yr ymchwiliad.
(3)
Rhaid i’r Comisiynydd gynnal unrhyw ymchwiliad o dan is-adran (1) ac adrodd o dan is-adran (2) yn unol ag—
(a)
darpariaethau’r Rheolau Sefydlog, a
(b)
unrhyw reolau sy’n ymwneud ag ymchwiliadau a gynhelir o dan yr adran hon sydd wedi’u mabwysiadu gan y Senedd o dan y Rheolau Sefydlog.
(4)
Yn ddarostyngedig i is-adran (3), mater i’r Comisiynydd yw penderfynu pryd a sut y dylid cynnal ymchwiliad a chyflwyno adroddiad ar ei ganlyniad.
(5)
O dan unrhyw amgylchiadau a ragnodir gan reolau y cyfeirir atynt yn is-adran (3)(b), caiff y Comisiynydd derfynu ymchwiliad sy’n cael ei gynnal o dan yr adran hon heb gyflwyno adroddiad arno i’r Senedd.
(6)
Os yw’r Comisiynydd yn terfynu ymchwiliad o dan is-adran (5), rhaid i’r Comisiynydd hysbysu’r Aelod o’r Senedd o dan sylw mewn ysgrifen, gan roi’r rhesymau dros derfynu’r ymchwiliad.
(7)
Ni chaiff adroddiad gan y Comisiynydd i’r Senedd ar ganlyniad ymchwiliad o dan yr adran hon gynnwys unrhyw argymhelliad ynghylch pa sancsiwn a ddylai gael ei orfodi ar yr Aelod o’r Senedd o dan sylw, os dylai unrhyw sancsiwn gael ei orfodi o gwbl.
(8)
Os caiff y Comisiynydd wybod, wrth gynnal ymchwiliad o dan yr adran hon, am unrhyw amgylchiadau sy’n codi materion o egwyddor neu o arfer cyffredinol sy’n berthnasol i swyddogaethau’r Clerc o dan adran 138 o’r Ddeddf (y Clerc i fod yn brif swyddog cyfrifyddu i’r Comisiwn), rhaid i’r Comisiynydd fynegi’r amgylchiadau hynny mewn ysgrifen i’r Clerc.
(9)
Rhaid i’r Rheolau Sefydlog wneud darpariaeth ar gyfer ymchwiliadau o dan yr adran hon.
(10)
Yn yr adran hon, ystyr “adeg berthnasol yw adeg pan oedd y gofyniad o dan sylw mewn grym ond mae’n amherthnasol pa un a honnir bod yr ymddygiad o dan sylw wedi digwydd cyn neu ar ôl i’r adran hon ddod i rym.”