Rhagolygol
(1)Mae Aelod o’r Senedd yn dod yn destun pôl adalw os yw—
(a)digwyddiad sbardun A neu ddigwyddiad sbardun B wedi digwydd mewn perthynas â’r Aelod o’r Senedd, a
(b)y Llywydd yn rhoi hysbysiad o’r ffaith honno o dan adran 6.
(2)Digwyddiad sbardun A yw bod yr Aelod o’r Senedd, ar ôl dod yn Aelod o’r Senedd, yn cael ei euogfarnu yn y Deyrnas Unedig o drosedd y mae’r aelod yn cael ei ddedfrydu neu ei orchymyn i gael ei garcharu neu ei gadw’n gaeth yn ei chylch.
(3)Mae adrannau 3 a 4 yn cynnwys rhagor ynghylch digwyddiad sbardun A.
(4)Digwyddiad sbardun B yw bod Senedd Cymru yn penderfynu gwneud yr Aelod o’r Senedd yn destun pôl adalw yn dilyn adroddiad gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn argymell gwneud yr aelod yn destun pôl adalw.
(5)Mae adran 5 yn cynnwys rhagor ynghylch digwyddiad sbardun B.
(6)Nid yw’r ddarpariaeth a wneir gan neu o dan y Ddeddf hon mewn perthynas â phôl adalw yn effeithio ar y ffyrdd eraill y gall sedd Aelod o’r Senedd ddod yn wag.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 26(3)