RHAN 1ADALW AELODAU O’R SENEDD
Cyffredinol
16Dehongli Rhan 1
Yn y Rhan hon—
ystyr “digwyddiad sbardun” (“trigger event”) yw digwyddiad o’r math a ddisgrifir yn is-adran (2) neu (4) o adran 2;
ystyr “digwyddiad sbardun A” (“trigger event A”) yw digwyddiad o’r math a ddisgrifir yn adran 2(2);
ystyr “digwyddiad sbardun B” (“trigger event B”) yw digwyddiad o’r math a ddisgrifir yn adran 2(4);
mae i “ei gwrthdroi neu ei wrthdroi ar apêl” (“overturned on appeal”) yr ystyr a roddir gan adran 4(7);
ystyr “etholaeth Senedd” (“Senedd constituency”) yw etholaeth y darperir ar ei chyfer mewn rheoliadau a wneir o dan adran 49J o Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013 (dccc 4);
mae i “hysbysiad y Llywydd” (“Presiding Officer’s notice”) yr ystyr a roddir gan adran 6(7);
ystyr “Llywydd” (“Presiding Officer”) yw Llywydd Senedd Cymru a etholir yn unol ag adran 25 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32);
mae i “pôl adalw” (“recall poll”) yr ystyr a roddir gan adran 1(2);
ystyr “Pwyllgor Safonau Ymddygiad” (“Standards of Conduct Committee”) yw’r pwyllgor o Senedd Cymru y mae rhaid ei sefydlu yn rhinwedd adran 30A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (a fewnosodir gan adran 18 o’r Ddeddf hon).