Rhagolygol

RHAN 1LL+CADALW AELODAU O’R SENEDD

Canlyniad pôl adalwLL+C

13Effaith datganiad bod Aelod o’r Senedd wedi ei ddiswyddoLL+C

(1)Os yw’r swyddog canlyniadau etholaethol yn datgan o dan adran 12(2) fod yr Aelod o’r Senedd sy’n destun y pôl adalw wedi ei ddiswyddo fel Aelod o Senedd Cymru, daw sedd yr aelod yn wag pan wneir y datganiad hwnnw.

(2)Nid yw is-adran (1) yn gymwys os yw’r sedd eisoes wedi dod yn wag.

(3)Mae is-adran (1) yn ddarostyngedig i unrhyw reoliadau o dan adran 11 ynghylch cwestiynu canlyniad pôl adalw.

(4)Nid yw’r ffaith bod sedd aelod yn dod yn wag o dan is-adran (1) yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw drafodion gan Senedd Cymru sy’n digwydd cyn i’r Llywydd gael ei hysbysu o dan adran 12(2)(d).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 26(3)