RHAN 1ADALW AELODAU O’R SENEDD

Canlyniad pôl adalw

13Effaith datganiad bod Aelod o’r Senedd wedi ei ddiswyddo

(1)

Os yw’r swyddog canlyniadau etholaethol yn datgan o dan adran 12(2) fod yr Aelod o’r Senedd sy’n destun y pôl adalw wedi ei ddiswyddo fel Aelod o Senedd Cymru, daw sedd yr aelod yn wag pan wneir y datganiad hwnnw.

(2)

Nid yw is-adran (1) yn gymwys os yw’r sedd eisoes wedi dod yn wag.

(3)

Mae is-adran (1) yn ddarostyngedig i unrhyw reoliadau o dan adran 11 ynghylch cwestiynu canlyniad pôl adalw.

(4)

Nid yw’r ffaith bod sedd aelod yn dod yn wag o dan is-adran (1) yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw drafodion gan Senedd Cymru sy’n digwydd cyn i’r Llywydd gael ei hysbysu o dan adran 12(2)(d).