Rhagolygol

RHAN 1LL+CADALW AELODAU O’R SENEDD

Rhedeg pôl adalwLL+C

10Polau adalw i’w rhedeg drwy bleidlais guddLL+C

(1)Rhaid rhedeg pôl adalw drwy bleidlais gudd.

(2)Rhaid i bob papur pleidleisio fod wedi ei ysgrifennu yn Gymraeg ac yn Saesneg.

(3)Y cwestiwn y mae rhaid iddo ymddangos ar y papurau pleidleisio yw—

A ddylid diswyddo neu gadw [mewnosoder enw’r Aelod o’r Senedd y mae’r pôl adalw yn gymwys iddo] fel aelod o Senedd Cymru?

Should [mewnosoder enw’r Aelod o’r Senedd y mae’r pôl adalw yn gymwys iddo] be removed or retained as a member of Senedd Cymru (the Welsh Parliament)?

(4)Y cyntaf o’r ddau ateb posibl i’r cwestiwn hwnnw y mae rhaid iddo ymddangos ar y papurau pleidleisio yw—

Diswyddo [mewnosoder enw’r Aelod o’r Senedd y mae’r pôl adalw yn gymwys iddo] fel aelod o Senedd Cymru.

Remove [mewnosoder enw’r Aelod o’r Senedd y mae’r pôl adalw yn gymwys iddo] as a member of Senedd Cymru.”

(5)Yr ail o’r ddau ateb posibl i’r cwestiwn hwnnw y mae rhaid iddo ymddangos ar y papurau pleidleisio yw—

Cadw [mewnosoder enw’r Aelod o’r Senedd y mae’r pôl adalw yn gymwys iddo] fel aelod o Senedd Cymru.

Retain [mewnosoder enw’r Aelod o’r Senedd y mae’r pôl adalw yn gymwys iddo] as a member of Senedd Cymru.

(6)Mae’r gofynion yn is-adrannau (3) i (5) yn ddarostyngedig i fewnosod enw’r Aelod o’r Senedd y mae’r pôl adalw yn gymwys iddo yn y mannau a gyfarwyddir yn y cwestiwn a’r atebion.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 26(3)