RHAN 1ADALW AELODAU O’R SENEDD

Rhedeg pôl adalw

10Polau adalw i’w rhedeg drwy bleidlais gudd

(1)

Rhaid rhedeg pôl adalw drwy bleidlais gudd.

(2)

Rhaid i bob papur pleidleisio fod wedi ei ysgrifennu yn Gymraeg ac yn Saesneg.

(3)

Y cwestiwn y mae rhaid iddo ymddangos ar y papurau pleidleisio yw—

“A ddylid diswyddo neu gadw [mewnosoder enw’r Aelod o’r Senedd y mae’r pôl adalw yn gymwys iddo] fel aelod o Senedd Cymru?

Should [mewnosoder enw’r Aelod o’r Senedd y mae’r pôl adalw yn gymwys iddo] be removed or retained as a member of Senedd Cymru (the Welsh Parliament)?”

(4)

Y cyntaf o’r ddau ateb posibl i’r cwestiwn hwnnw y mae rhaid iddo ymddangos ar y papurau pleidleisio yw—

“Diswyddo [mewnosoder enw’r Aelod o’r Senedd y mae’r pôl adalw yn gymwys iddo] fel aelod o Senedd Cymru.

Remove [mewnosoder enw’r Aelod o’r Senedd y mae’r pôl adalw yn gymwys iddo] as a member of Senedd Cymru.””

(5)

Yr ail o’r ddau ateb posibl i’r cwestiwn hwnnw y mae rhaid iddo ymddangos ar y papurau pleidleisio yw—

“Cadw [mewnosoder enw’r Aelod o’r Senedd y mae’r pôl adalw yn gymwys iddo] fel aelod o Senedd Cymru.

Retain [mewnosoder enw’r Aelod o’r Senedd y mae’r pôl adalw yn gymwys iddo] as a member of Senedd Cymru.”

(6)

Mae’r gofynion yn is-adrannau (3) i (5) yn ddarostyngedig i fewnosod enw’r Aelod o’r Senedd y mae’r pôl adalw yn gymwys iddo yn y mannau a gyfarwyddir yn y cwestiwn a’r atebion.