RHAN 1ADALW AELODAU O’R SENEDD

Cyflwyniad

1Trosolwg

(1)

Mae’r Rhan hon yn darparu ar gyfer adalw Aelodau o’r Senedd drwy bôl adalw.

(2)

Cynhelir pôl adalw ynghylch pa un a ddylai Aelod o’r Senedd gael ei ddiswyddo neu ei gadw fel aelod o Senedd Cymru.

(3)

Os canlyniad y pôl adalw yw bod Aelod o’r Senedd i’w ddiswyddo, daw sedd yr aelod yn wag (gweler adrannau 12 a 13).

(4)

Gweler adran 11 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) am ddarpariaeth ynghylch canlyniadau aelodaeth o Senedd Cymru yn dod yn wag.