
Deddf Iaith Arwyddion Prydain (Cymru) 2026
Deddf gan Senedd Cymru i hybu’r defnydd o Iaith Arwyddion Prydain yng Nghymru.
Gan ei fod wedi ei basio gan Senedd Cymru ac wedi derbyn cydsyniad Ei Fawrhydi, deddfir fel a ganlyn:
Cyflwyniad
1Iaith Arwyddion Prydain
(1)
Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at “IAP” yn gyfeiriadau at—
(a)
ffurf weledol Iaith Arwyddion Prydain, a
(b)
ffurf gyffyrddol Iaith Arwyddion Prydain a ddefnyddir ac a ddeellir gan rai pobl ddallfyddar.
(2)
Ond mae’r cyfeiriadau at IAP yn adrannau 3(4)(b), 4(3)(b), 5(8), 7(2), 8(3)(c), a pharagraff 1 o’r Atodlen, yn gyfeiriadau at y ffurf weledol yn unig.
Hybu IAP
2Dyletswydd Gweinidogion Cymru i hybu IAP
Rhaid i Weinidogion Cymru hybu a hwyluso’r defnydd o IAP.
3Strategaeth IAP genedlaethol
(1)
Er mwyn cyflawni’r ddyletswydd o dan adran 2, rhaid i Weinidogion Cymru lunio a chyhoeddi strategaeth genedlaethol (“strategaeth IAP”).
(2)
Rhaid i’r strategaeth IAP—
(a)
disgrifio sut y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu—
(i)
hybu a hwyluso’r defnydd o IAP wrth arfer eu swyddogaethau;
(ii)
annog cyrff cyhoeddus rhestredig i hybu a hwyluso’r defnydd o IAP wrth arfer eu swyddogaethau (gan gynnwys drwy roi canllawiau o dan adran 4);
(b)
cynnwys targedau i gynyddu neu gynnal—
(i)
nifer y cyfieithwyr a’r dehonglwyr IAP sydd ar gael at ddiben arfer y swyddogaethau a grybwyllir ym mharagraff (a), a
(ii)
nifer y personau sydd ar gael at ddiben addysgu ac asesu’r cyfieithwyr a’r dehonglwyr IAP hynny;
(c)
nodi pa wybodaeth ynghylch y defnydd o IAP yng Nghymru a gafwyd ac a ystyriwyd at ddiben llunio’r strategaeth.
(3)
Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)
cyhoeddi’r strategaeth IAP o fewn 18 mis sy’n dechrau â’r diwrnod drannoeth y dyddiad y mae’r Ddeddf hon yn cael ei dwyn i rym;
(b)
adolygu’r strategaeth IAP o leiaf unwaith ym mhob cyfnod o 6 blynedd sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl i’r strategaeth gael ei chyhoeddi gyntaf ac, os ydynt yn ei diwygio, cyhoeddi’r fersiwn ddiwygiedig.
(4)
Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)
gosod y strategaeth IAP, ac unrhyw fersiwn ddiwygiedig ohoni, gerbron Senedd Cymru, a
(b)
sicrhau ei bod ar gael yn IAP.
(5)
Wrth lunio’r strategaeth IAP, ac unrhyw fersiwn ddiwygiedig ohoni, rhaid i Weinidogion Cymru gynnwys y canlynol—
(a)
y cynghorydd IAP (gweler adran 6),
(b)
unrhyw gynrychiolwyr i arwyddwyr IAP y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol, ac
(c)
unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.
(6)
Mae’r gofyniad i gynnwys y personau a grybwyllir yn is-adran (5) yn cynnwys—
(a)
rhoi cyfle iddynt i wneud sylwadau ynghylch y cynnwys ar ddechrau’r broses,
(b)
ceisio eu barn mewn cyfnod ffurfiannol o lunio cynnig drafft, ac
(c)
eu cynnwys fel arall drwy gydol y broses drwy—
(i)
darparu digon o wybodaeth i’w galluogi i ystyried yn briodol yr hyn sy’n cael ei gynnig, a
(ii)
darparu digon o amser i’w galluogi i ystyried yn ddigonol yr hyn sy’n cael ei gynnig ac ymateb.
4Canllawiau IAP
(1)
Rhaid i Weinidogion Cymru dyroddi canllawiau i gyrff cyhoeddus rhestredig ynghylch sut y cânt hybu a hwyluso’r defnydd o IAP wrth arfer eu swyddogaethau.
(2)
Mewn perthynas â’r canllawiau y cyfeirir atynt yn is-adran (1), o ran Gweinidogion Cymru—
(a)
rhaid iddynt ddyroddi’r canllawiau heb fod yn hwyrach na’r dyddiad y cyhoeddir y strategaeth IAP yn unol ag adran 3(3), a
(b)
cânt ddyroddi canllawiau diwygiedig ar unrhyw adeg.
(3)
Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)
cyhoeddi unrhyw ganllawiau a ddyroddir yn unol â’r adran hon, a
(b)
sicrhau eu bod ar gael yn IAP.
(4)
Cyn dyroddi’r canllawiau, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—
(a)
y cynghorydd IAP,
(b)
unrhyw gynrychiolwyr i arwyddwyr IAP y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol, ac
(c)
unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.
Cynlluniau IAP cyrff cyhoeddus rhestredig
5Cynlluniau IAP
(1)
Rhaid i gorff cyhoeddus rhestredig lunio a chyhoeddi cynllun IAP—
(a)
sy’n disgrifio sut y mae’n bwriadu hybu a hwyluso’r defnydd o IAP wrth arfer ei swyddogaethau;
(b)
sy’n disgrifio sut y mae’n bwriadu dilyn canllawiau a ddyroddir o dan adran 4, neu’n esbonio pam nad yw’n bwriadu gwneud hynny;
(c)
sy’n cynnwys unrhyw wybodaeth arall a ragnodir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau.
(2)
Rhaid i’r corff cyhoeddus rhestredig gyhoeddi ei gynllun o fewn 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl i’r strategaeth IAP gael ei chyhoeddi yn unol ag adran 3(3)(a).
(3)
Rhaid i’r corff cyhoeddus rhestredig adolygu ei gynllun—
(a)
os yw’n cael ei gyfarwyddo i wneud hynny gan Weinidogion Cymru;
(b)
ar ôl i unrhyw fersiwn ddiwygiedig o’r strategaeth IAP gael ei chyhoeddi.
(4)
Rhaid i gyfarwyddyd o dan is-adran (3)(a) ddatgan y rhesymau dros roi’r cyfarwyddyd.
(5)
Os yw’r corff cyhoeddus rhestredig yn penderfynu diwygio ei gynllun yn dilyn adolygiad, rhaid iddo gyhoeddi’r fersiwn ddiwygiedig o’r cynllun cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
(6)
Wrthlunio ei gynllun neu unrhyw fersiwn ddiwygiedig ohono, rhaid i’r corff cyhoeddus rhestredig gynnwys y canlynol—
(a)
unrhyw gynrychiolwyr i arwyddwyr IAP y mae’n ystyried eu bod yn briodol, a
(b)
unrhyw bersonau eraill y mae’n ystyried eu bod yn briodol.
(7)
Mae’r gofyniad i gynnwys y personau a grybwyllir yn is-adran (6) yn cynnwys—
(a)
rhoi cyfle iddynt i wneud sylwadau ynghylch y cynnwys ar ddechrau’r broses,
(b)
ceisio eu barn mewn cyfnod ffurfiannol o lunio cynnig drafft, ac
(c)
eu cynnwys fel arall drwy gydol y broses drwy—
(i)
darparu digon o wybodaeth i’w galluogi i ystyried yn briodol yr hyn sy’n cael ei gynnig, a
(ii)
darparu digon o amser i’w galluogi i ystyried yn ddigonol yr hyn sy’n cael ei gynnig ac ymateb.
(8)
Rhaid i’r corff cyhoeddus rhestredig anfon unrhyw gynllun a gyhoeddir o dan yr adran hon at Weinidogion Cymru a sicrhau ei fod ar gael yn IAP.
Cynghorydd i Weinidogion Cymru
6Y cynghorydd IAP
(1)
Rhaid i Weinidogion Cymru benodi person i fod yn gynghorydd IAP iddynt, a phersonau i fod yn aelodau panel i gynorthwyo’r cynghorydd IAP.
(2)
Caiff y cynghorydd IAP—
(a)
darparu gwybodaeth neu gyngor i Weinidogion Cymru mewn perthynas â’u swyddogaethau o dan y Ddeddf hon;
(b)
darparu gwybodaeth neu gyngor, gyda chytundeb Gweinidogion Cymru, i unrhyw berson mewn perthynas â hybu a hwyluso’r defnydd o IAP yng Nghymru;
(c)
ymgynghori â’r panel mewn perthynas ag unrhyw wybodaeth neu gyngor sydd i’w darparu neu ei ddarparu yn unol â pharagraffau (a) neu (b).
(3)
Caiff y cynghorydd IAP ddarparu’r wybodaeth neu’r cyngor a grybwyllir yn is-adran (2)(a) ohono ei hun neu mewn ymateb i gais a wneir gan Weinidogion Cymru.
(4)
Pan fo’r cynghorydd IAP yn cael cais gan Weinidogion Cymru o dan is-adran (3), rhaid i’r cynghorydd ddarparu’r wybodaeth neu’r cyngor cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
(5)
Os yw’r cynghorydd IAP yn gofyn i gorff cyhoeddus rhestredig ddarparu gwybodaeth i’r cynghorydd at ddiben arfer unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r cynghorydd, rhaid i’r corff gydymffurfio â’r cais oni bai ei fod yn ystyried y byddai gwneud hynny yn gwrthdaro â’i ddyletswyddau neu’n cael effaith andwyol ar arfer ei swyddogaethau.
(6)
Os yw corff cyhoeddus rhestredig yn penderfynu peidio â chydymffurfio â chais o dan is-adran (5), rhaid iddo esbonio pam i’r cynghorydd IAP yn ysgrifenedig.
(7)
Mae’r Atodlen yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch y cynghorydd IAP a’r panel.
Adrodd
7Adroddiadau gan gyrff cyhoeddus rhestredig
(1)
O fewn 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl iddo gyhoeddi ei gynllun IAP o dan adran 5 neu unrhyw fersiwn ddiwygiedig ohono, rhaid i gorff cyhoeddus rhestredig lunio a chyhoeddi adroddiad—
(a)
sy’n disgrifio’r hyn y mae wedi ei wneud i weithredu’r fersiwn ddiweddaraf o’r cynllun, a
(b)
os nad yw wedi gweithredu rhywbeth, sy’n esbonio pam nad yw wedi gwneud hynny.
(2)
Rhaid i’r corff cyhoeddus rhestredig anfon unrhyw adroddiad a gyhoeddir o dan yr adran hon at Weinidogion Cymru a sicrhau ei fod ar gael yn IAP.
8Adroddiadau gan Weinidogion Cymru
(1)
Rhaid i Weinidogion Cymru lunio a chyhoeddi adroddiad sy’n asesu’r cynnydd a wnaed o ran hybu a hwyluso’r defnydd o IAP yn unol â’r Ddeddf hon.
(2)
At ddiben llunio’r adroddiad, rhaid i Weinidogion Cymru gael gwybodaeth briodol ynghylch y defnydd o IAP yng Nghymru yn ddigon rheolaidd i’w galluogi i asesu cynnydd.
(3)
Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)
cyhoeddi adroddiad o dan is-adran (1) o leiaf unwaith ym mhob cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl i’r strategaeth IAP gael ei chyhoeddi gyntaf,
(b)
gosod yr adroddiad gerbron Senedd Cymru, ac
(c)
sicrhau bod yr adroddiad ar gael yn IAP.
(4)
At ddiben llunio adroddiad o dan yr adran hon, caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i gorff cyhoeddus rhestredig ddarparu iddynt unrhyw wybodaeth a bennir ganddynt yn ysgrifenedig.
(5)
Rhaid i adroddiad a gyhoeddir o dan yr adran hon gynnwys esboniad o’r ystyriaeth a roddir gan Weinidogion Cymru ynghylch a ddylid diwygio’r rhestr o gyrff cyhoeddus y cyfeirir atynt yn adran 9(1) yn unol ag adran 9(2).
(6)
Wrth lunio adroddiad o dan yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—
(a)
y cynghorydd IAP,
(b)
unrhyw gynrychiolwyr i arwyddwyr IAP y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol, ac
(c)
unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.
Cyffredinol
9Ystyr “corff cyhoeddus rhestredig”
(1)
At ddibenion y Ddeddf hon, mae pob un o’r personau a ganlyn yn “corff cyhoeddus rhestredig”—
(a)
cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;
(b)
Bwrdd Iechyd Lleol;
(c)
yr Ymddiriedolaethau GIG a ganlyn—
(i)
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru;
(ii)
Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre;
(iii)
Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru;
(d)
yr awdurdodau iechyd arbennig a ganlyn a sefydlwyd o dan adran 22 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42)—
(i)
Iechyd a Gofal Digidol Cymru;
(ii)
Addysg a Gwella Iechyd Cymru.
(2)
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio is-adran (1)—
(a)
drwy ychwanegu awdurdod Cymreig datganoledig,
(b)
drwy ddileu corff cyhoeddus rhestredig, neu
(c)
drwy ddiwygio’r disgrifiad o gorff cyhoeddus rhestredig.
(3)
Cyn gwneud rheoliadau sy’n diwygio is-adran (1), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—
(a)
y cynghorydd IAP,
(b)
unrhyw gynrychiolwyr i arwyddwyr IAP y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol, ac
(c)
unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.
(4)
Yn is-adran (2)(a), mae i “awdurdod Cymreig datganoledig” yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” yn adran 157A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
10Rheoliadau
(1)
Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon—
(a)
yn arferadwy drwy offeryn statudol Cymreig;
(b)
yn cynnwys y pŵer i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol;
(c)
yn cynnwys y pŵer i wneud darpariaeth ddeilliadol, darpariaeth atodol, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.
(2)
Mae rheoliadau o dan adran 9(2) yn ddarostyngedig i weithdrefn gymeradwyo’r Senedd.
(3)
Mae rheoliadau o dan adran 5(1)(c) yn ddarostyngedig i weithdrefn annilysu’r Senedd.
11Dod i rym
Daw’r Ddeddf hon i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.
12Enw byr
Caniateir cyfeirio at y Ddeddf hon fel—
(a)
Deddf Iaith Arwyddion Prydain (Cymru) 2026, neu
(b)
the British Sign Language (Wales) Act 2026.
ATODLENY CYNGHORYDD IAP
Y cynghorydd IAP
1
Rhaid i Weinidogion Cymru fod wedi eu bodloni bod gan y person a benodir yn gynghorydd IAP—
(a)
y gallu i gyfathrebu’n effeithiol yn IAP, a
(b)
dealltwriaeth bersonol briodol o brofiadau arwyddwyr IAP.
2
Er mwyn bod wedi eu bodloni ynghylch y materion y cyfeirir atynt ym mharagraff 1, rhaid i Weinidogion Cymru geisio cyngor arwyddwr IAP.
3
Mae’r person a benodir yn gynghorydd IAP yn dal ei swydd yn unol â thelerau’r penodiad.
4
Caiff Gweinidogion Cymru dalu cydnabyddiaeth ariannol, treuliau a lwfansau i’r cynghorydd IAP.
5
Caiff Gweinidogion Cymru dalu—
(a)
pensiynau i’r cynghorydd IAP, neu mewn cysylltiad ag ef;
(b)
symiau ar gyfer darparu pensiynau neu tuag at ddarparu pensiynau i bersonau sydd wedi bod yn gynghorydd IAP, neu mewn cysylltiad â phersonau o’r fath.
6
Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu i’r cynghorydd IAP y staff, yr adeiladau, y cyfarpar a’r cyfleusterau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod neu eu bod yn angenrheidiol ar gyfer arfer swyddogaethau’r cynghorydd IAP.
Y panel
7
Cyn penodi person yn aelod o’r panel, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r cynghorydd IAP.
8
Mae person a benodir yn aelod o’r panel yn dal ei swydd yn unol â thelerau’r penodiad.
9
Caiff Gweinidogion Cymru dalu cydnabyddiaeth ariannol, treuliau a lwfansau i berson a benodir yn aelod o’r panel.