AdroddLL+C

7Adroddiadau gan gyrff cyhoeddus rhestredigLL+C

(1)O fewn 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl iddo gyhoeddi ei gynllun IAP o dan adran 5 neu unrhyw fersiwn ddiwygiedig ohono, rhaid i gorff cyhoeddus rhestredig lunio a chyhoeddi adroddiad—

(a)sy’n disgrifio’r hyn y mae wedi ei wneud i weithredu’r fersiwn ddiweddaraf o’r cynllun, a

(b)os nad yw wedi gweithredu rhywbeth, sy’n esbonio pam nad yw wedi gwneud hynny.

(2)Rhaid i’r corff cyhoeddus rhestredig anfon unrhyw adroddiad a gyhoeddir o dan yr adran hon at Weinidogion Cymru a sicrhau ei fod ar gael yn IAP.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 7 mewn grym ar 28.4.2026, gweler a. 11