(1)Rhaid i Weinidogion Cymru benodi person i fod yn gynghorydd IAP iddynt, a phersonau i fod yn aelodau panel i gynorthwyo’r cynghorydd IAP.
(2)Caiff y cynghorydd IAP—
(a)darparu gwybodaeth neu gyngor i Weinidogion Cymru mewn perthynas â’u swyddogaethau o dan y Ddeddf hon;
(b)darparu gwybodaeth neu gyngor, gyda chytundeb Gweinidogion Cymru, i unrhyw berson mewn perthynas â hybu a hwyluso’r defnydd o IAP yng Nghymru;
(c)ymgynghori â’r panel mewn perthynas ag unrhyw wybodaeth neu gyngor sydd i’w darparu neu ei ddarparu yn unol â pharagraffau (a) neu (b).
(3)Caiff y cynghorydd IAP ddarparu’r wybodaeth neu’r cyngor a grybwyllir yn is-adran (2)(a) ohono ei hun neu mewn ymateb i gais a wneir gan Weinidogion Cymru.
(4)Pan fo’r cynghorydd IAP yn cael cais gan Weinidogion Cymru o dan is-adran (3), rhaid i’r cynghorydd ddarparu’r wybodaeth neu’r cyngor cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
(5)Os yw’r cynghorydd IAP yn gofyn i gorff cyhoeddus rhestredig ddarparu gwybodaeth i’r cynghorydd at ddiben arfer unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r cynghorydd, rhaid i’r corff gydymffurfio â’r cais oni bai ei fod yn ystyried y byddai gwneud hynny yn gwrthdaro â’i ddyletswyddau neu’n cael effaith andwyol ar arfer ei swyddogaethau.
(6)Os yw corff cyhoeddus rhestredig yn penderfynu peidio â chydymffurfio â chais o dan is-adran (5), rhaid iddo esbonio pam i’r cynghorydd IAP yn ysgrifenedig.
(7)Mae’r Atodlen yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch y cynghorydd IAP a’r panel.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 6 mewn grym ar 28.4.2026, gweler a. 11