Hybu IAPLL+C

4Canllawiau IAPLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru dyroddi canllawiau i gyrff cyhoeddus rhestredig ynghylch sut y cânt hybu a hwyluso’r defnydd o IAP wrth arfer eu swyddogaethau.

(2)Mewn perthynas â’r canllawiau y cyfeirir atynt yn is-adran (1), o ran Gweinidogion Cymru—

(a)rhaid iddynt ddyroddi’r canllawiau heb fod yn hwyrach na’r dyddiad y cyhoeddir y strategaeth IAP yn unol ag adran 3(3), a

(b)cânt ddyroddi canllawiau diwygiedig ar unrhyw adeg.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)cyhoeddi unrhyw ganllawiau a ddyroddir yn unol â’r adran hon, a

(b)sicrhau eu bod ar gael yn IAP.

(4)Cyn dyroddi’r canllawiau, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—

(a)y cynghorydd IAP,

(b)unrhyw gynrychiolwyr i arwyddwyr IAP y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol, ac

(c)unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 4 mewn grym ar 28.4.2026, gweler a. 11