CyffredinolLL+C

10RheoliadauLL+C

(1)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon—

(a)yn arferadwy drwy offeryn statudol Cymreig;

(b)yn cynnwys y pŵer i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol;

(c)yn cynnwys y pŵer i wneud darpariaeth ddeilliadol, darpariaeth atodol, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.

(2)Mae rheoliadau o dan adran 9(2) yn ddarostyngedig i weithdrefn gymeradwyo’r Senedd.

(3)Mae rheoliadau o dan adran 5(1)(c) yn ddarostyngedig i weithdrefn annilysu’r Senedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 10 mewn grym ar 28.4.2026, gweler a. 11