5Dod i rym
(1)
Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol—
(a)
adran 1;
(b)
adran 2 i’r graddau y mae’n ymwneud â darpariaethau Atodlenni 2 a 3 a grybwyllir ym mhargraffau (f) a (g);
(c)
adran 4;
(d)
yr adran hon;
(e)
adran 6;
(f)
paragraffau 139(a), 153(a), 178(c), 180(c), 187(a) a 262(a) o Atodlen 2;
(g)
paragraffau 42, 47, 48, 50, 56(b), 60 i 63, 64(b) a 65 i 67 o Atodlen 3.
(2)
I’r graddau nad ydynt yn cael eu dwyn i rym gan is-adran (1), daw adrannau 2 a 3 ac Atodlenni 1 i 5 i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol Cymreig.
(3)
Caiff gorchymyn o dan is-adran (2) wneud darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed mewn cysylltiad â dod i rym ddarpariaeth a ddygir i rym drwy’r gorchymyn.
(4)
Os yw’r ffaith y bydd deddfiad arall mewn grym neu na fydd mewn grym ar y diwrnod a bennir drwy orchymyn o dan is-adran (2) yn golygu na fydd darpariaeth yn Atodlen 1, 2 neu 3 yn cymryd effaith, caiff y gorchymyn ddiddymu’r ddarpariaeth honno a gwneud unrhyw ddiwygiadau eraill i Atodlenni 1 i 5 sy’n ganlyniadol ar y diddymiad.
(5)
Nid oes unrhyw beth yn yr adran hon yn cyfyngu ar y pwerau a roddir gan adran 4, nac yn cael ei gyfyngu gan y pwerau hynny.