(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau a wneir drwy offeryn statudol Cymreig—
(a)gwneud darpariaeth sy’n ddeilliadol neu’n atodol i unrhyw ddarpariaeth yn y brif Ddeddf neu’r Ddeddf hon, neu sy’n ganlyniadol ar unrhyw ddarpariaeth yn y brif Ddeddf neu’r Ddeddf hon;
(b)gwneud darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed mewn cysylltiad ag unrhyw ddarpariaeth yn y brif Ddeddf neu’r Ddeddf hon.
(2)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon ddiwygio, diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad, pa bryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir (gan gynnwys darpariaeth yn y brif Ddeddf neu’r Ddeddf hon).
(3)Mae rheoliadau o dan yr adran hon sy’n diwygio neu’n diddymu unrhyw ddeddfiad mewn deddfwriaeth sylfaenol yn ddarostyngedig i weithdrefn gymeradwyo’r Senedd.
(4)Mae unrhyw reoliadau eraill o dan yr adran hon yn ddarostyngedig i weithdrefn annilysu’r Senedd.
(5)Yn yr adran hon—
mae “deddfiad” (“enactment”) yn cynnwys darpariaeth mewn Mesur gan Eglwys Loegr (o fewn yr ystyr a roddir gan adran 408 o’r brif Ddeddf) neu mewn offeryn a wneir o dan Fesur o’r fath;
ystyr “deddfwriaeth sylfaenol” (“primary legislation”) yw—
Deddf gan Senedd Cymru,
Mesur Cynulliad, neu
Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 4 mewn grym ar 28.4.2026, gweler a. 5(1)(c)