4Pŵer i wneud darpariaeth bellach mewn cysylltiad â’r brif Ddeddf

(1)

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau a wneir drwy offeryn statudol Cymreig—

(a)

gwneud darpariaeth sy’n ddeilliadol neu’n atodol i unrhyw ddarpariaeth yn y brif Ddeddf neu’r Ddeddf hon, neu sy’n ganlyniadol ar unrhyw ddarpariaeth yn y brif Ddeddf neu’r Ddeddf hon;

(b)

gwneud darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed mewn cysylltiad ag unrhyw ddarpariaeth yn y brif Ddeddf neu’r Ddeddf hon.

(2)

Caiff rheoliadau o dan yr adran hon ddiwygio, diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad, pa bryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir (gan gynnwys darpariaeth yn y brif Ddeddf neu’r Ddeddf hon).

(3)

Mae rheoliadau o dan yr adran hon sy’n diwygio neu’n diddymu unrhyw ddeddfiad mewn deddfwriaeth sylfaenol yn ddarostyngedig i weithdrefn gymeradwyo’r Senedd.

(4)

Mae unrhyw reoliadau eraill o dan yr adran hon yn ddarostyngedig i weithdrefn annilysu’r Senedd.

(5)

Yn yr adran hon—

mae “deddfiad” (“enactment”) yn cynnwys darpariaeth mewn Mesur gan Eglwys Loegr (o fewn yr ystyr a roddir gan adran 408 o’r brif Ddeddf) neu mewn offeryn a wneir o dan Fesur o’r fath;

ystyr “deddfwriaeth sylfaenol” (“primary legislation”) yw—

(a)

Deddf gan Senedd Cymru,

(b)

Mesur Cynulliad, neu

(c)

Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig.