2Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol a diddymiadau

(1)

Mae Atodlenni 1 i 4 yn cynnwys mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol (gan gynnwys diddymiadau) mewn cysylltiad â’r brif Ddeddf a Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (dsc 3).

(2)

Mae Atodlen 1 yn cynnwys diwygiadau i Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8).

(3)

Mae Atodlen 2 yn cynnwys diwygiadau i Ddeddfau eraill gan Senedd y Deyrnas Unedig.

(4)

Mae Atodlen 3 yn cynnwys diwygiadau i Fesurau Cynulliad a Deddfau gan Senedd Cymru.

(5)

Mae Atodlen 4 yn cynnwys diwygiadau i ddeddfwriaeth arall.

(6)

At ddibenion unrhyw gyfeiriad yn Atodlen 1, 2 neu 3 at a yw deddfiad arall mewn grym—

(a)

mae’r cwestiwn a yw’r deddfiad mewn grym i’w benderfynu ar yr adeg y daw’r paragraff o Atodlen 1, 2 neu 3 sy’n cynnwys y cyfeiriad i rym;

(b)

os daw’r deddfiad i rym ar yr un pryd â’r paragraff sy’n cynnwys y cyfeiriad, mae i’w drin fel pe bai wedi dod i rym yn union cyn y paragraff hwnnw;

(c)

mae’r deddfiad i’w drin fel pe na bai mewn grym os nad yw mewn grym ond i’r graddau y mae’n rhoi pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth.

(7)

Yn yr Atodlenni hynny—

ystyr “DCC 2015” (“PWA 2015”) yw Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 (dccc 4);

ystyr “DCS 2025” (“PIA 2025”) yw Deddf Cynllunio a Seilwaith 2025 (p. 34);

ystyr “DFfBA 2023” (“LURA 2023”) yw Deddf Ffyniant Bro ac Adfywio 2023 (p. 55).