RHAN 1DARPARIAETHAU RHAGARWEINIOL
PENNOD 3AWDURDODAU CYNLLUNIO
8Pŵer i ddynodi ardal gydgynllunio a sefydlu bwrdd cydgynllunio
(1)
Caiff rheoliadau—
(a)
dynodi’n ardal gydgynllunio ddwy ardal neu ragor, pob un ohonynt yn sir neu’n fwrdeistref sirol gyfan, neu’n rhan o sir neu fwrdeistref sirol, yng Nghymru, a
(b)
sefydlu cyd-fwrdd (o’r enw “bwrdd cydgynllunio”) ar gyfer yr ardal gydgynllunio.
(2)
Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau o dan yr adran hon oni bai naill ai—
(a)
eu bod wedi peri i ymchwiliad lleol gael ei gynnal, neu
(b)
bod yr holl gynghorau cyfansoddol wedi cytuno.
(3)
Mae bwrdd cydgynllunio yn gorff corfforedig.
(4)
Mae bwrdd cydgynllunio wedi ei gyfansoddi o aelodau a benodir gan y cynghorau cyfansoddol.
(5)
Rhaid i’r rheoliadau sy’n sefydlu’r bwrdd benderfynu nifer yr aelodau.
(6)
Caiff rheoliadau o dan yr adran hon—
(a)
rheoleiddio penodi aelodau o fwrdd cydgynllunio, deiliadaeth eu swydd a gadael eu swydd;
(b)
rheoleiddio cyfarfodydd a thrafodion y bwrdd;
(c)
darparu ar gyfer talu costau’r bwrdd gan y cynghorau cyfansoddol;
(d)
cymhwyso i’r bwrdd (gydag addasiadau neu hebddynt) unrhyw ddeddfiad sy’n ymwneud â chyfansoddiad, swyddogaethau neu drefniadau ariannol (gan gynnwys archwilio) awdurdodau lleol o unrhyw ddisgrifiad;
(e)
gwneud unrhyw ddarpariaeth arall y mae Gweinidogion Cymru yn meddwl ei bod yn briodol mewn cysylltiad ag arfer swyddogaethau’r bwrdd.
(7)
Caiff rheoliadau o dan yr adran hon hefyd—
(a)
darparu ar gyfer trosglwyddo eiddo, hawliau ac atebolrwyddau (gan gynnwys hawliau ac atebolrwyddau sy’n ymwneud â chontractau cyflogaeth);
(b)
darparu ar gyfer addasu cyfrifon a dosrannu atebolrwyddau.
(8)
“Cynghorau cyfansoddol” bwrdd cydgynllunio yw pob cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol y mae ei ardal gyfan neu ran ohoni wedi ei chynnwys yn ardal gydgynllunio’r bwrdd.