(1)Rhaid i awdurdod sy’n gwneud cynllun lunio ei gynllun yn unol ag—
(a)y weithdrefn a bennir mewn rheoliadau, a
(b)y cytundeb cyflawni ar gyfer y cynllun.
(2)Cynnwys cytundeb cyflawni ar gyfer y cynllun yw—
(a)yr amserlen ar gyfer llunio a mabwysiadu’r cynllun, a
(b)cynllun cynnwys cymunedau’r awdurdod.
(3)Mae cynllun cynnwys cymunedau’r awdurdod yn ddatganiad o’i bolisïau ar gyfer cynnwys wrth lunio’r cynllun bersonau sydd wedi eu rhestru yn y cynllun cynnwys cymunedau.
(4)O ran y personau sydd wedi eu rhestru yn y cynllun cynnwys cymunedau—
(a)rhaid iddynt gynnwys y personau a bennir mewn rheoliadau;
(b)caniateir iddynt gynnwys unrhyw bersonau eraill y mae’r awdurdod sy’n gwneud cynllun o’r farn bod ganddynt fuddiant mewn materion sy’n ymwneud â datblygiad a defnydd o dir yn ei ardal.
(5)Rhaid i’r awdurdod sy’n gwneud cynllun a Gweinidogion Cymru geisio cytuno ar delerau’r cytundeb cyflawni ar gyfer y cynllun.
(6)Ond i’r graddau na allant gytuno ar y telerau, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo bod rhaid i’r cytundeb cyflawni fod ar y telerau a bennir yn y cyfarwyddyd.
(7)Rhaid i’r awdurdod sy’n gwneud cynllun gydymffurfio â’r cyfarwyddyd.
(8)Caiff rheoliadau bennu—
(a)y weithdrefn i’w dilyn wrth lunio cytundeb cyflawni;
(b)amgylchiadau lle nad oes angen cydymffurfio â gofynion cytundeb cyflawni.