RHAN 2Y CYNLLUN DATBLYGU

PENNOD 4CYNLLUNIAU DATBLYGU STRATEGOL A LLEOL: Y WEITHDREFN

Llunio a mabwysiadu cynlluniau

21Llunio cynllun: y weithdrefn a’r cytundeb cyflawni

(1)

Rhaid i awdurdod sy’n gwneud cynllun lunio ei gynllun yn unol ag—

(a)

y weithdrefn a bennir mewn rheoliadau, a

(b)

y cytundeb cyflawni ar gyfer y cynllun.

(2)

Cynnwys cytundeb cyflawni ar gyfer y cynllun yw—

(a)

yr amserlen ar gyfer llunio a mabwysiadu’r cynllun, a

(b)

cynllun cynnwys cymunedau’r awdurdod.

(3)

Mae cynllun cynnwys cymunedau’r awdurdod yn ddatganiad o’i bolisïau ar gyfer cynnwys wrth lunio’r cynllun bersonau sydd wedi eu rhestru yn y cynllun cynnwys cymunedau.

(4)

O ran y personau sydd wedi eu rhestru yn y cynllun cynnwys cymunedau—

(a)

rhaid iddynt gynnwys y personau a bennir mewn rheoliadau;

(b)

caniateir iddynt gynnwys unrhyw bersonau eraill y mae’r awdurdod sy’n gwneud cynllun o’r farn bod ganddynt fuddiant mewn materion sy’n ymwneud â datblygiad a defnydd o dir yn ei ardal.

(5)

Rhaid i’r awdurdod sy’n gwneud cynllun a Gweinidogion Cymru geisio cytuno ar delerau’r cytundeb cyflawni ar gyfer y cynllun.

(6)

Ond i’r graddau na allant gytuno ar y telerau, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo bod rhaid i’r cytundeb cyflawni fod ar y telerau a bennir yn y cyfarwyddyd.

(7)

Rhaid i’r awdurdod sy’n gwneud cynllun gydymffurfio â’r cyfarwyddyd.

(8)

Caiff rheoliadau bennu—

(a)

y weithdrefn i’w dilyn wrth lunio cytundeb cyflawni;

(b)

amgylchiadau lle nad oes angen cydymffurfio â gofynion cytundeb cyflawni.