RHAN 2Y CYNLLUN DATBLYGU

PENNOD 2FFRAMWAITH DATBLYGU CENEDLAETHOL CYMRU

13Llunio’r Fframwaith: datganiad o gyfranogiad y cyhoedd

(1)

Rhaid i Weinidogion Cymru lunio a chyhoeddi datganiad o gyfranogiad y cyhoedd sy’n nodi eu polisïau mewn perthynas â’r ymgynghoriad sydd i’w gynnal wrth lunio Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Cymru.

(2)

Yn benodol, rhaid i’r datganiad gynnwys darpariaeth ynghylch—

(a)

ffurf yr ymgynghoriad,

(b)

pryd y cynhelir yr ymgynghoriad, ac

(c)

y camau a gymerir i gynnwys aelodau o’r cyhoedd wrth lunio’r Fframwaith.

(3)

Rhaid i’r datganiad ddarparu y bydd Gweinidogion Cymru, fel rhan o’r ymgynghoriad—

(a)

yn cyhoeddi drafft o’r Fframwaith, a

(b)

yn caniatáu cyfnod o 12 wythnos sy’n dechrau â chyhoeddi’r drafft pan gaiff unrhyw berson gyflwyno sylwadau ynghylch y drafft.

(4)

Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r datganiad a rhaid iddynt gyhoeddi’r datganiad fel y’i diwygiwyd.