Rhagolygol

RHAN 3LL+CPWERAU GORFODI AC YMCHWILIO

Pwerau awdurdodau gorfodi i roi hysbysiadauLL+C

99Apêl yn erbyn hysbysiad gwaharddLL+C

(1)Caiff person a grybwyllir yn is-adran (2) apelio i dribiwnlys eiddo preswyl yn erbyn hysbysiad gwahardd.

(2)Y personau yw—

(a)pan fo’r hysbysiad gwahardd yn ymwneud ag adeilad rheoleiddiedig—

(i)person atebol ar gyfer yr adeilad, neu berson sy’n cael ei drin fel person atebol ar gyfer yr adeilad yn rhinwedd adran 36;

(ii)preswylydd neu berchennog uned breswyl yn yr adeilad (gan gynnwys rhan o’r adeilad a fyddai’n uned breswyl oni bai am reoliadau a wneir o dan adran 5(6)(a));

(iii)meddiannydd unrhyw fangre arall sy’n ffurfio rhan o’r adeilad;

(iv)perchennog yr ystad rydd-ddaliadol yn yr adeilad neu unrhyw ran ohono;

(b)pan fo’r hysbysiad gwahardd yn ymwneud a thŷ amlfeddiannaeth perthnasol—

(i)deiliad dyletswydd ar gyfer y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol;

(ii)meddiannydd y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol;

(iii)perchennog yr ystad rydd-ddaliadol yn y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol neu unrhyw ran ohono.

(3)Caniateir i apêl gael ei gwneud ar unrhyw adeg—

(a)cyn i’r gwaharddiad neu’r cyfyngiad a osodir gan yr hysbysiad gwahardd gymryd effaith, neu

(b)pan fo’r gwaharddiad neu’r cyfyngiad a osodir gan yr hysbysiad mewn effaith.

(4)Caniateir gwneud apêl ar un neu ragor o’r seiliau a ganlyn—

(a)nad yw’r materion a bennir yn yr hysbysiad o dan adran 98(4)(a) wedi digwydd;

(b)nad yw’r materion hynny yn arwain, ac nad ydynt yn debygol o arwain, at risg diogelwch tân sydd mor ddifrifol fel y dylid gwahardd neu gyfyngu ar ddefnydd o’r adeilad neu’r tŷ amlfeddiannaeth perthnasol;

(c)bod y gwaharddiad neu’r cyfyngiad a osodir gan yr hysbysiad yn afresymol neu’n ormodol.

(5)Pan wneir apêl yn erbyn hysbysiad gwahardd—

(a)caiff yr apelydd wneud cais i’r tribiwnlys am gyfarwyddyd nad yw’r hysbysiad o unrhyw effaith hyd nes y penderfynir yn derfynol ar yr apêl neu y tynnir yr apêl yn ôl, a

(b)oni bai y rhoddir cyfarwyddyd o’r fath a hyd nes y rhoddir cyfarwyddyd o’r fath, mae’r hysbysiad gwahardd yn parhau i gael effaith er gwaethaf bod yr apêl yn cael ei gwneud.

(6)Ar apêl o dan yr adran hon, caiff y tribiwnlys—

(a)cadarnhau yr hysbysiad gwahardd,

(b)amrywio’r hysbysiad, neu

(c)diddymu’r hysbysiad.

(7)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio’r rhestrau o bersonau yn is-adran (2) drwy—

(a)ychwanegu person at restr,

(b)tynnu person ymaith, neu

(c)amrywio’r disgrifiad o berson.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 99 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)