RHAN 3PWERAU GORFODI AC YMCHWILIO

Pwerau awdurdodau gorfodi i roi hysbysiadau

98Pŵer yr awdurdod diogelwch tân i roi hysbysiad gwahardd

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys pan fo’r awdurdod diogelwch tân ar gyfer adeilad rheoleiddiedig neu dŷ amlfeddiannaeth perthnasol yn ystyried bod defnydd o’r adeilad neu’r tŷ amlfeddiannaeth perthnasol yn cynnwys, neu’n debygol o gynnwys, risg diogelwch tân sydd mor ddifrifol (pa un a yw hynny oherwydd unrhyw beth sy’n effeithio ar allu pobl i ddianc os bydd tân, neu am unrhyw reswm arall) y dylid gwahardd neu gyfyngu ar ddefnydd yr adeilad neu’r tŷ amlfeddiannaeth perthnasol.

(2)

Caiff yr awdurdod diogelwch tân roi hysbysiad gwahardd i—

(a)

person atebol ar gyfer yr adeilad, neu unrhyw berson arall sy’n cael ei drin fel person atebol ar gyfer yr adeilad yn rhinwedd adran 36;

(b)

deiliad dyletswydd ar gyfer y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol.

(3)

Mae hysbysiad gwahardd yn hysbysiad sydd—

(a)

yn gwahardd y defnydd y cyfeirir ato yn is-adran (1), neu

(b)

yn cyfyngu ar y defnydd hwnnw i’r graddau a bennir yn yr hysbysiad,

hyd nes bod y materion sy’n arwain at y risg diogelwch tân, neu a fydd yn arwain at risg o’r fath wedi eu hunioni.

(4)

Rhaid i hysbysiad gwahardd—

(a)

pennu’r materion sy’n arwain at y risg diogelwch tân, neu a fydd yn arwain at y risg diogelwch tân;

(b)

pennu’r amser pan fydd gwaharddiad neu gyfyngiad a osodwyd ganddo yn cymryd effaith;

(c)

esbonio canlyniadau torri gwaharddiad neu gyfyngiad o’r fath;

(d)

cynnwys gwybodaeth am yr hawl i apelio o dan adran 99.

(5)

Caiff hysbysiad gwahardd ddatgan bod gwaharddiad neu gyfyngiad yn cymryd effaith cyn gynted ag y rhoddir yr hysbysiad, ond dim ond os yw’r awdurdod diogelwch tân yn ystyried bod risg o farwolaeth neu anaf difrifol ar fin digwydd, neu bod risg o farwolaeth neu anaf difrifol ar fin digwydd yn debygol.

(6)

Rhaid i dderbynnydd hysbysiad gwahardd gymryd pob cam rhesymol i sicrhau—

(a)

yr hysbysir meddianwyr yr adeilad neu’r tŷ amlfeddiannaeth perthnasol am unrhyw waharddiad neu gyfyngiad a gynhwysir yn yr hysbysiad cyn gynted â phosibl;

(b)

y rhwystrir neu y cyfyngir ar ddefnydd yr adeilad neu’r tŷ amlfeddiannaeth perthnasol i’r graddau sy’n ofynnol gan yr hysbysiad.

(7)

Mae’r camau y mae rhaid eu cymryd o dan is-adran (6) yn cynnwys arddangos copi o’r hysbysiad gwahardd mewn lle amlwg wrth bob mynedfa i’r adeilad neu’r tŷ amlfeddiannaeth perthnasol.

(8)

Cyn rhoi hysbysiad gwahardd mewn perthynas â thŷ amlfeddiannaeth perthnasol, rhaid i’r awdurdod diogelwch tân, pan fo’n ymarferol, hysbysu’r awdurdod tai lleol am ei fwriad a’r defnydd y mae’n bwriadu ei wahardd neu ei gyfyngu.

(9)

Pan fo awdurdod diogelwch tân yn rhoi hysbysiad gwahardd mewn perthynas ag adeilad rheoleiddiedig neu dŷ amlfeddiannaeth perthnasol, rhaid iddo sicrhau yr hysbysir y canlynol—

(a)

yr awdurdod diogelwch adeiladau ar gyfer yr adeilad ac unrhyw gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol arall yng Nghymru y mae unrhyw ran o’r adeilad wedi ei lleoli yn ei ardal, os yw’r hysbysiad yn ymwneud ag adeilad rheoleiddiedig neu dŷ amlfeddiannaeth perthnasol sydd wedi ei gynnwys mewn adeilad rheoleiddiedig;

(b)

Gweinidogion Cymru, os yw’r prif berson atebol ar gyfer yr adeilad neu landlord y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol yn landlord cymdeithasol cofrestredig;

(c)

unrhyw berson arall a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(10)

Nid yw methu â chydymffurfio ag is-adran (8) neu (9) yn effeithio ar ddilysrwydd yr hysbysiad gwahardd.

(11)

Caiff awdurdod diogelwch tân sydd wedi rhoi hysbysiad gwahardd i berson dynnu’r hysbysiad yn ôl ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad pellach i’r person.