RHAN 3PWERAU GORFODI AC YMCHWILIO
Pwerau awdurdodau gorfodi i roi hysbysiadau
97Apêl yn erbyn hysbysiad cydymffurfio
(1)
Caiff person y rhoddwyd hysbysiad cydymffurfio iddo apelio i dribiwnlys eiddo preswyl yn erbyn yr hysbysiad.
(2)
Rhaid gwneud apêl cyn diwedd 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod drannoeth y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i’r person.
(3)
Caiff y tribiwnlys ganiatáu i apêl gael ei gwneud iddo ar ôl diwedd y cyfnod a grybwyllir yn is-adran (2) os yw wedi ei fodloni bod rheswm da dros y methiant i apelio cyn diwedd y cyfnod hwnnw (a thros unrhyw oedi cyn gwneud cais am ganiatâd i apelio ar ôl yr amser priodol).
(4)
Caniateir i apêl gael ei gwneud ar y naill neu’r llall o’r seiliau a ganlyn neu’r ddwy ohonynt—
(a)
nad yw’r person wedi torri, nad yw yn torri, neu nad yw’n debygol o dorri, y gofyniad y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef;
(b)
ei bod yn afresymol ei gwneud yn ofynnol i’r person wneud peth sy’n ofynnol gan yr hysbysiad o dan adran 96(2).
(5)
Pan wneir apêl yn erbyn hysbysiad cydymffurfio nad yw’n hysbysiad gweithredu ar frys—
(a)
nid yw’r hysbysiad cydymffurfio yn cael effaith hyd nes y penderfynir yn derfynol ar yr apêl neu y tynnir yr apêl yn ôl, a
(b)
caiff y cyfnod ar gyfer cydymffurfio â’r hysbysiad a bennir o dan adran 96(2) ei drin fel pe bai wedi ei estyn gan y cyfnod—
(i)
sy’n dechrau â’r diwrnod drannoeth y diwrnod y gwneir yr apêl, a
(ii)
sy’n dod i ben ar y diwrnod y penderfynir yn derfynol ar yr apêl neu y tynnir yr apêl yn ôl.
(6)
Pan wneir apêl yn erbyn hysbysiad cydymffurfio sy’n hysbysiad gweithredu ar frys—
(a)
caiff yr apelydd wneud cais i’r tribiwnlys am gyfarwyddyd nad yw’r hysbysiad cydymffurfio o unrhyw effaith hyd nes y penderfynir yn derfynol ar yr apêl neu y tynnir yr apêl yn ôl, a
(b)
oni bai y rhoddir cyfarwyddyd o’r fath a hyd nes y rhoddir cyfarwyddyd o’r fath, mae’r hysbysiad cydymffurfio yn parhau i gael effaith er gwaethaf bod yr apêl yn cael ei gwneud.
(7)
Ar apêl o dan yr adran hon, caiff y tribiwnlys—
(a)
cadarnhau yr hysbysiad cydymffurfio,
(b)
amrywio’r hysbysiad, neu
(c)
diddymu’r hysbysiad.