Rhagolygol
(1)Caiff awdurdod gorfodi roi hysbysiad cydymffurfio i unrhyw berson y mae’n ystyried—
(a)sydd wedi torri gofyniad y mae gan yr awdurdod y swyddogaeth o’i orfodi,
(b)sy’n torri gofyniad o’r fath, neu
(c)sy’n debygol o dorri gofyniad o’r fath.
(2)Mae hysbysiad cydymffurfio yn hysbysiad sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person, o fewn cyfnod a bennir yn yr hysbysiad, wneud unrhyw un neu ragor neu’r cyfan o’r hyn a ganlyn—
(a)unioni’r torri neu’r materion sy’n arwain ato;
(b)cymryd camau penodedig mewn perthynas ag unioni’r toriad;
(c)cymryd camau penodedig mewn perthynas ag osgoi’r toriad rhag digwydd.
(3)Os yw’r awdurdod gorfodi yn ystyried bod y toriad wedi gosod neu y bydd yn gosod pobl perthnasol mewn perygl sydd ar fin digwydd, caiff yr hysbysiad nodi ei fod yn “hysbysiad gweithredu ar frys” at ddibenion adran 97.
(4)Pan fo awdurdod gorfodi yn rhoi hysbysiad cydymffurfio i berson, rhaid iddo ar yr un pryd roi i’r person ddatganiad sy’n—
(a)crynhoi gofynion yr hysbysiad,
(b)egluro canlyniadau methu â chydymffurfio â’r hysbysiad, ac
(c)cynnwys gwybodaeth am yr hawl i apelio o dan adran 97.
(5)Pan fo awdurdod diogelwch adeiladau yn rhoi hysbysiad cydymffurfio mewn perthynas ag adeilad rheoleiddiedig, rhaid iddo sicrhau yr hysbysir y canlynol—
(a)unrhyw gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol arall yng Nghymru y mae unrhyw ran o’r adeilad wedi ei lleoli yn ei ardal;
(b)awdurdod diogelwch tân yr adeilad;
(c)Gweinidogion Cymru, os yw’r prif berson atebol ar gyfer yr adeilad yn landlord cymdeithasol cofrestredig;
(d)unrhyw berson arall a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.
(6)Pan fo awdurdod diogelwch tân yn rhoi hysbysiad cydymffurfio mewn perthynas ag adeilad rheoleiddiedig neu dŷ amlfeddiannaeth perthnasol, rhaid iddo sicrhau yr hysbysir y canlynol—
(a)yr awdurdod diogelwch adeiladau ar gyfer yr adeilad ac unrhyw gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol arall yng Nghymru y mae unrhyw ran o’r adeilad wedi ei lleoli yn ei ardal, os yw’r hysbysiad yn ymwneud ag adeilad rheoleiddiedig neu dŷ amlfeddiannaeth perthnasol sydd wedi ei gynnwys mewn adeilad rheoleiddiedig;
(b)Gweinidogion Cymru, os yw’r prif berson atebol ar gyfer yr adeilad neu landlord y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol yn landlord cymdeithasol cofrestredig;
(c)unrhyw berson arall a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.
(7)Nid yw methu â chydymffurfio ag is-adran (5) neu (6) yn effeithio ar ddilysrwydd yr hysbysiad.
(8)Caiff awdurdod gorfodi sydd wedi rhoi hysbysiad cydymffurfio i berson dynnu’r hysbysiad yn ôl ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad pellach i’r person.
(9)Yn is-adran (3), ystyr “pobl perthnasol” yw pobl yn yr adeilad rheoleiddiedig neu’r tŷ amlfeddiannaeth perthnasol y mae’r toriad yn ymwneud ag ef, neu o amgylch yr adeilad rheoleiddiedig neu’r tŷ amlfeddiannaeth perthnasol y mae’r toriad yn ymwneud ag ef.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 96 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)