Rhagolygol
(1)Caiff awdurdod gorfodi roi hysbysiad gwybodaeth i unrhyw berson at ddiben—
(a)ymchwilio i gydymffurfedd ag unrhyw ofyniad y mae gan yr awdurdod y swyddogaeth o orfodi, neu
(b)arfer unrhyw un neu ragor o swyddogaethau eraill yr awdurdod o dan y Ddeddf hon neu reoliadau a wneir oddi tani.
(2)Mae hysbysiad gwybodaeth yn hysbysiad sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person roi gwybodaeth benodedig neu ddogfennau penodedig i’r awdurdod o fewn cyfnod penodedig.
(3)Caiff hysbysiad gwybodaeth bennu—
(a)sut y mae rhaid rhoi unrhyw wybodaeth neu ddogfen;
(b)y ffurf y mae rhaid ei rhoi ynddi.
(4)Ni chaiff hysbysiad gwybodaeth ei gwneud yn ofynnol i berson roi unrhyw wybodaeth neu ddogfen y gellid cynnal hawliad am fraint broffesiynol gyfreithiol mewn cysylltiad â hwy mewn achos cyfreithiol.
(5)Rhaid i hysbysiad gwybodaeth—
(a)nodi ei fod yn hysbysiad a roddir o dan yr adran hon, a
(b)esbonio canlyniadau methu â chydymffurfio â’r hysbysiad.
(6)Caiff awdurdod gorfodi sydd wedi rhoi hysbysiad gwybodaeth i berson dynnu’r hysbysiad yn ôl ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad pellach i’r person.
(7)Nid yw gwybodaeth y mae person yn ei rhoi i awdurdod gorfodi o dan yr adran hon yn dderbyniadwy mewn tystiolaeth yn erbyn y person mewn achos troseddol ac eithrio—
(a)mewn achos am drosedd o dan adran 101(1)(a),
(b)mewn achos am drosedd o dan adran 108 (darparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol),
(c)mewn achos am drosedd o wyrdroi cwrs cyfiawnder, neu
(d)os yn yr achos—
(i)wrth roi tystiolaeth, bod y person yn gwneud datganiad sy’n anghyson â’r wybodaeth, a
(ii)y caiff tystiolaeth sy’n ymwneud â’r wybodaeth a roddwyd ei dwyn, neu y gofynnir cwestiwn sy’n ymwneud â’r wybodaeth honno, gan neu ar ran y person.
(8)Yn yr adran hon, ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu yn yr hysbysiad gwybodaeth.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 95 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)