RHAN 3PWERAU GORFODI AC YMCHWILIO

Pwerau awdurdodau gorfodi i roi hysbysiadau

95Pŵer awdurdod gorfodi i roi hysbysiad gwybodaeth

(1)

Caiff awdurdod gorfodi roi hysbysiad gwybodaeth i unrhyw berson at ddiben—

(a)

ymchwilio i gydymffurfedd ag unrhyw ofyniad y mae gan yr awdurdod y swyddogaeth o orfodi, neu

(b)

arfer unrhyw un neu ragor o swyddogaethau eraill yr awdurdod o dan y Ddeddf hon neu reoliadau a wneir oddi tani.

(2)

Mae hysbysiad gwybodaeth yn hysbysiad sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person roi gwybodaeth benodedig neu ddogfennau penodedig i’r awdurdod o fewn cyfnod penodedig.

(3)

Caiff hysbysiad gwybodaeth bennu—

(a)

sut y mae rhaid rhoi unrhyw wybodaeth neu ddogfen;

(b)

y ffurf y mae rhaid ei rhoi ynddi.

(4)

Ni chaiff hysbysiad gwybodaeth ei gwneud yn ofynnol i berson roi unrhyw wybodaeth neu ddogfen y gellid cynnal hawliad am fraint broffesiynol gyfreithiol mewn cysylltiad â hwy mewn achos cyfreithiol.

(5)

Rhaid i hysbysiad gwybodaeth—

(a)

nodi ei fod yn hysbysiad a roddir o dan yr adran hon, a

(b)

esbonio canlyniadau methu â chydymffurfio â’r hysbysiad.

(6)

Caiff awdurdod gorfodi sydd wedi rhoi hysbysiad gwybodaeth i berson dynnu’r hysbysiad yn ôl ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad pellach i’r person.

(7)

Nid yw gwybodaeth y mae person yn ei rhoi i awdurdod gorfodi o dan yr adran hon yn dderbyniadwy mewn tystiolaeth yn erbyn y person mewn achos troseddol ac eithrio—

(a)

mewn achos am drosedd o dan adran 101(1)(a),

(b)

mewn achos am drosedd o dan adran 108 (darparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol),

(c)

mewn achos am drosedd o wyrdroi cwrs cyfiawnder, neu

(d)

os yn yr achos—

(i)

wrth roi tystiolaeth, bod y person yn gwneud datganiad sy’n anghyson â’r wybodaeth, a

(ii)

y caiff tystiolaeth sy’n ymwneud â’r wybodaeth a roddwyd ei dwyn, neu y gofynnir cwestiwn sy’n ymwneud â’r wybodaeth honno, gan neu ar ran y person.

(8)

Yn yr adran hon, ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu yn yr hysbysiad gwybodaeth.