RHAN 3PWERAU GORFODI AC YMCHWILIO

Awdurdodau gorfodi

94Swyddogaethau gorfodi awdurdodau diogelwch tân ac awdurdodau diogelwch adeiladau

(1)

Mae’n un o swyddogaethau’r awdurdod diogelwch tân ar gyfer adeilad rheoleiddiedig i orfodi, mewn perthynas â’r adeilad—

(a)

gofyniad a osodir ar berson atebol (neu berson sy’n cael ei drin fel person atebol yn rhinwedd adran 36) gan—

(i)

adrannau 29 i 33 neu reoliadau a wneir oddi tanynt (asesu a rheoli risgiau diogelwch tân);

(ii)

adrannau 48 i 50 neu reoliadau a wneir oddi tanynt (cadw a rhoi gwybodaeth);

(iii)

adran 68 (cydweithredu a chydlynu);

(b)

gofyniad a osodir ar berson gan—

(i)

adran 47 (rhoi gwybodaeth a dogfennau);

(ii)

adran 54 (dyletswyddau diogelwch tân preswylwyr etc.)‍;

(c)

gofyniad a osodir ar berson gan adran 56 (atgyweirio gwrthiant tân unedau preswyl);‍‍

(d)

gofyniad a osodir ar berson cyfrifol gan erthygl 22C, 22D neu 22E o’r Gorchymyn Diogelwch Tân (cydweithredu a gwybodaeth) (gan gynnwys pan osodir gofyniad o’r fath yn rhinwedd erthygl 5(3) o’r Gorchymyn hwnnw).

(2)

Mae’n un o swyddogaethau’r awdurdod diogelwch adeiladau ar gyfer adeilad rheoleiddiedig i orfodi, mewn perthynas â’r adeilad—

(a)

gofyniad a osodir ar berson atebol (neu berson sy’n cael ei drin fel person atebol yn rhinwedd adran 36) gan y Ddeddf hon neu reoliadau a wneir oddi tani, ac eithrio gofyniad a osodir gan adrannau 29 i 33 neu reoliadau a wneir oddi tanynt;

(b)

gofyniad a osodir ar berson gan—

(i)

adran 47 (rhoi gwybodaeth a dogfennau);

(ii)

adran 55 (dyletswyddau diogelwch strwythurol preswylwyr etc.);‍

(c)

gofyniad a osodir ar berson cyfrifol gan erthygl 22C, 22D neu 22E o’r Gorchymyn Diogelwch Tân (gan gynnwys pan osodir gofyniad o’r fath yn rhinwedd erthygl 5(3) o’r Gorchymyn hwnnw).

(3)

Mae’n un o swyddogaethau’r awdurdod diogelwch tân ar gyfer tŷ amlfeddiannaeth perthnasol i orfodi, mewn perthynas â’r tŷ amlfeddiannaeth perthnasol—

(a)

gofyniad a osodir ar ddeiliad dyletswydd gan—

(i)

adrannau 81 i 85 neu reoliadau a wneir oddi tanynt (asesu a rheoli risgiau diogelwch tân);

(ii)

adran 91 (cydweithredu a chydlynu);

(b)

gofyniad a osodir ar berson gan—

(i)

adran 86 (rhoi gwybodaeth a dogfennau);

(ii)

adran 88 (dyletswyddau diogelwch tân meddianwyr);

(c)

gofyniad a osodir ar berson cyfrifol gan erthygl 22C, 22D neu 22E o’r Gorchymyn Diogelwch Tân (gan gynnwys pan osodir gofyniad o’r fath yn rhinwedd erthygl 5(3) o’r Gorchymyn hwnnw).

(4)

Yn y Ddeddf hon, ystyr “awdurdod gorfodi” yw awdurdod diogelwch adeiladau neu awdurdod diogelwch tân.