Rhagolygol
(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu, mewn amgylchiadau a bennir yn y rheoliadau, fod cartref symudol a feddiennir at ddibenion preswyl gan bersonau nad ydynt yn ffurfio aelwyd unigol i’w drin fel tŷ amlfeddiannaeth perthnasol at ddibenion y Ddeddf hon.
(2)Caiff y rheoliadau ddarparu, mewn perthynas â chartref symudol sy’n cael ei drin fel tŷ amlfeddiannaeth perthnasol, fod unrhyw ddarpariaeth yn y Rhan hon neu reoliadau a wneir oddi tani—
(a)ddim yn gymwys, neu
(b)yn gymwys gydag addasiadau a bennir yn y rheoliadau.
(3)Yn yr adran hon, mae i “cartref symudol” yr ystyr a roddir gan adran 60 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 (dccc 6).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 92 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)