RHAN 2DIOGELWCH TÂN MEWN TAI AMLFEDDIANNAETH PENODOL

Cyffredinol

92Pŵer i gymhwyso’r Rhan hon i gartrefi symudol

(1)

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu, mewn amgylchiadau a bennir yn y rheoliadau, fod cartref symudol a feddiennir at ddibenion preswyl gan bersonau nad ydynt yn ffurfio aelwyd unigol i’w drin fel tŷ amlfeddiannaeth perthnasol at ddibenion y Ddeddf hon.

(2)

Caiff y rheoliadau ddarparu, mewn perthynas â chartref symudol sy’n cael ei drin fel tŷ amlfeddiannaeth perthnasol, fod unrhyw ddarpariaeth yn y Rhan hon neu reoliadau a wneir oddi tani—

(a)

ddim yn gymwys, neu

(b)

yn gymwys gydag addasiadau a bennir yn y rheoliadau.

(3)

Yn yr adran hon, mae i “cartref symudol” yr ystyr a roddir gan adran 60 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 (dccc 6).