RHAN 2DIOGELWCH TÂN MEWN TAI AMLFEDDIANNAETH PENODOL

Cyffredinol

91Cydweithredu a chydlynu gan ddeiliaid dyletswydd

(1)

Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo mwy nag un deiliad dyletswydd ar gyfer tŷ amlfeddiannaeth perthnasol.

(2)

Wrth gyflawni ei ddyletswyddau o dan y Ddeddf hon a’r rheoliadau a wneir oddi tani, rhaid i bob deiliad dyletswydd, i’r graddau y bo hynny’n bosibl, gydweithredu a chydlynu â phob deiliad dyletswydd arall ar gyfer y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol.

(3)

Mae is-adran (4) yn gymwys pan fo—

(a)

person yn ddeiliad dyletswydd ar gyfer tŷ amlfeddiannaeth perthnasol sydd wedi ei gynnwys mewn adeilad rheoleiddiedig, a

(b)

un neu ragor o bersonau eraill yn bersonau atebol ar gyfer yr adeilad rheoleiddiedig.

(4)

Wrth gyflawni ei ddyletswyddau o dan y Ddeddf hon a’r rheoliadau a wneir oddi tani, rhaid‍ i’r deiliad dyletswydd, i’r graddau y bo hynny’n bosibl, gydweithredu a chydlynu â phob person atebol ar gyfer yr adeilad rheoleiddiedig.

(5)

Mae is-adran (6) yn gymwys pan fo—

(a)

person yn ddeiliad dyletswydd ar gyfer tŷ amlfeddiannaeth perthnasol sydd wedi ei gynnwys mewn adeilad categori 1, a

(b)

gorchymyn mesurau arbennig mewn grym mewn perthynas â’r adeilad categori 1.

(6)

Rhaid i’r deiliad dyletswydd gydweithredu â’r rheolwr mesurau arbennig a benodir gan y gorchymyn at ddiben y rheolwr yn cyflawni ei swyddogaethau o dan y gorchymyn.

(7)

Mae is-adran (8) yn gymwys pan fo—

(a)

person yn ddeiliad dyletswydd ar gyfer tŷ amlfeddiannaeth perthnasol sydd wedi ei gynnwys mewn adeilad rheoleiddiedig, a

(b)

gorchymyn o dan adran 24 o Ddeddf Landlord a Thenant 1987 (p. 31) mewn grym sy’n penodi rheolwr i gyflawni unrhyw swyddogaethau diogelwch adeiladau mewn perthynas â’r adeilad rheoleiddiedig neu unrhyw ran ohono.

(8)

Rhaid i’r deiliad dyletswydd gydweithredu â’r rheolwr at ddiben y rheolwr yn cyflawni ei swyddogaethau diogelwch adeiladau o dan y gorchymyn.

(9)

Yn is-adrannau (7) ac (8), ystyr “swyddogaeth diogelwch adeiladau” yw swyddogaeth y mae’r Ddeddf hon neu reoliadau a wneir oddi tani yn ei darparu ei bod i’w chyflawni gan berson atebol ar gyfer yr adeilad rheoleiddiedig.

(10)

Mae is-adran (11) yn gymwys pan fo—

(a)

person yn ddeiliad dyletswydd ar gyfer tŷ amlfeddiannaeth perthnasol, a

(b)

un neu ragor o bersonau eraill yn bersonau cyfrifol at ddibenion y Gorchymyn Diogelwch Tân mewn perthynas ag—

(i)

y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol, neu

(ii)

os yw’r tŷ amlfeddiannaeth perthnasol yn ffurfio rhan o adeilad, unrhyw fangre arall sy’n ffurfio rhan o’r adeilad.

(11)

Rhaid i’r deiliad dyletswydd, i’r graddau y bo hynny’n bosibl, gydweithredu a chydlynu â phob person cyfrifol at ddiben pob person cyfrifol yn cyflawni ei ddyletswyddau o dan y Gorchymyn Diogelwch Tân.