Rhagolygol
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan—
(a)bo deiliad dyletswydd ar gyfer tŷ amlfeddiannaeth perthnasol yn gwneud cais i berson perthnasol am fynediad i fangre berthnasol,
(b)bo’r cais yn cael ei wneud at ddiben a grybwyllir yn is-adran (2),
(c)bo’r cais yn cydymffurfio ag is-adran (3), a
(d)na roddir mynediad i’r fangre.
(2)Y dibenion yw—
(a)pan mai’r deiliad dyletswydd yw landlord y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol, galluogi’r person hwnnw i gydymffurfio ag adrannau 81 i 84 neu reoliadau a wneir o dan yr adrannau hynny (asesu risgiau diogelwch tân);
(b)galluogi’r deiliad dyletswydd i gydymffurfio ag adran 85 neu reoliadau a wneir oddi tani (rheoli risgiau diogelwch tân).
(3)Mae cais yn cydymffurfio â’r is-adran hon os yw—
(a)yn ysgrifenedig,
(b)yn nodi’r diben y gwneir y cais ar ei gyfer,
(c)yn esbonio pam ei bod yn angenrheidiol mynd i’r fangre berthnasol at y diben hwnnw, a
(d)yn gofyn am fynediad ar ddyddiad, ac amser, sy’n rhesymol.
(4)Caiff y deiliad dyletswydd wneud cais i dribiwnlys eiddo preswyl am orchymyn mynediad i fangre amhreswyl o dan yr adran hon.
(5)Mae gorchymyn mynediad i fangre amhreswyl o dan yr adran hon yn orchymyn sydd—
(a)yn ei gwneud yn ofynnol i’r person perthnasol ganiatáu i’r deiliad dyletswydd fynd i’r fangre berthnasol ar amser rhesymol at y diben a nodir yn y cais o dan is-adran (3)(b), a
(b)os yw’n angenrheidiol at y diben hwnnw, yn awdurdodi’r person sy’n mynd i’r fangre yn unol â’r gorchymyn i fesur neu brofi unrhyw beth, neu gymryd samplau, ffotograffau neu recordiadau.
(6)Caiff tribiwnlys eiddo preswyl wneud gorchymyn mynediad i fangre amhreswyl o dan yr adran hon os yw’n fodlon ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny at y diben a nodir yn y cais o dan is-adran (3)(b).
(7)Rhaid i’r gorchymyn mynediad i fangre amhreswyl bennu dyddiad y caniateir mynd i’r fangre, neu gyfnod y caniateir i’r mynediad ddigwydd ynddo.
(8)Yn yr adran hon—
ystyr “mangre berthnasol” (“relevant premises”) yw unrhyw fangre—
sy’n gyfan gwbl neu’n rhannol uwchben neu o dan y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol, a
nad yw—
yn uned breswyl neu ran o uned breswyl, neu
yn ardal, neu ran o ardal, a ddarperir at ddefnydd, er budd neu er mwynhad preswylwyr uned breswyl benodol, neu unedau preswyl penodol;
ystyr “person perthnasol” (“relevant person”) yw unrhyw berson a chanddo reolaeth dros fynediad i’r fangre berthnasol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 90 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 138(2)