RHAN 2DIOGELWCH TÂN MEWN TAI AMLFEDDIANNAETH PENODOL

Mynediad i fangre amhreswyl

90Mynediad i fangre amhreswyl gan ddeiliad dyletswydd

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys pan—

(a)

bo deiliad dyletswydd ar gyfer tŷ amlfeddiannaeth perthnasol yn gwneud cais i berson perthnasol am fynediad i fangre berthnasol,

(b)

bo’r cais yn cael ei wneud at ddiben a grybwyllir yn is-adran (2),

(c)

bo’r cais yn cydymffurfio ag is-adran (3), a

(d)

na roddir mynediad i’r fangre.

(2)

Y dibenion yw—

(a)

pan mai’r deiliad dyletswydd yw landlord y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol, galluogi’r person hwnnw i gydymffurfio ag adrannau 81 i 84 neu reoliadau a wneir o dan yr adrannau hynny (asesu risgiau diogelwch tân);

(b)

galluogi’r deiliad dyletswydd i gydymffurfio ag adran 85 neu reoliadau a wneir oddi tani (rheoli risgiau diogelwch tân).

(3)

Mae cais yn cydymffurfio â’r is-adran hon os yw—

(a)

yn ysgrifenedig,

(b)

yn nodi’r diben y gwneir y cais ar ei gyfer,

(c)

yn esbonio pam ei bod yn angenrheidiol mynd i’r fangre berthnasol at y diben hwnnw, a

(d)

yn gofyn am fynediad ar ddyddiad, ac amser, sy’n rhesymol.

(4)

Caiff y deiliad dyletswydd wneud cais i dribiwnlys eiddo preswyl am orchymyn mynediad i fangre amhreswyl o dan yr adran hon.

(5)

Mae gorchymyn mynediad i fangre amhreswyl o dan yr adran hon yn orchymyn sydd—

(a)

yn ei gwneud yn ofynnol i’r person perthnasol ganiatáu i’r deiliad dyletswydd fynd i’r fangre berthnasol ar amser rhesymol at y diben a nodir yn y cais o dan is-adran (3)(b), a

(b)

os yw’n angenrheidiol at y diben hwnnw, yn awdurdodi’r person sy’n mynd i’r fangre yn unol â’r gorchymyn i fesur neu brofi unrhyw beth, neu gymryd samplau, ffotograffau neu recordiadau.

(6)

Caiff tribiwnlys eiddo preswyl wneud gorchymyn mynediad i fangre amhreswyl o dan yr adran hon os yw’n fodlon ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny at y diben a nodir yn y cais o dan is-adran (3)(b).

(7)

Rhaid i’r gorchymyn mynediad i fangre amhreswyl bennu dyddiad y caniateir mynd i’r fangre, neu gyfnod y caniateir i’r mynediad ddigwydd ynddo.

(8)

Yn yr adran hon—

ystyr “mangre berthnasol” (“relevant premises”) yw unrhyw fangre—

(a)

sy’n gyfan gwbl neu’n rhannol uwchben neu o dan y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol, a

(b)

nad yw—

  1. (i)

    yn uned breswyl neu ran o uned breswyl, neu

  2. (ii)

    yn ardal, neu ran o ardal, a ddarperir at ddefnydd, er budd neu er mwynhad preswylwyr uned breswyl benodol, neu unedau preswyl penodol;

ystyr “person perthnasol” (“relevant person”) yw unrhyw berson a chanddo reolaeth dros fynediad i’r fangre berthnasol.