RHAN 1DIOGELWCH ADEILADAU SY’N CYNNWYS DWY NEU RAGOR O UNEDAU PRESWYL
PENNOD 2TERMAU ALLWEDDOL
Personau atebol, prif bersonau atebol a rhannau cyffredin
9Ystyr “prif berson atebol”
(1)
Mae’r adran hon yn nodi ystyr “prif berson atebol” ar gyfer adeilad rheoleiddiedig at ddibenion y Ddeddf hon.
(2)
Y “prif berson atebol” ar gyfer adeilad ag iddo un person atebol yw’r person atebol hwnnw.
(3)
Y “prif berson atebol” ar gyfer adeilad ac iddo fwy nag un person atebol yw’r person atebol sydd—
(a)
yn dal ystad gyfreithiol mewn meddiant yn strwythur allanol yr adeilad, neu
(b)
o fewn adran 8(2)(b) oherwydd rhwymedigaeth atgyweirio berthnasol mewn perthynas â strwythur allanol yr adeilad.
(4)
Yn is-adran (3) (ac adran 10(1)(b)), ystyr “strwythur allanol” adeilad yw ei sylfeini, ei waliau allanol a’i do, ac eithrio—
(a)
unrhyw ran o’r sylfeini, y waliau allanol neu’r to sydd wedi ei chynnwys mewn demeis uned breswyl (gan gynnwys rhan o’r adeilad a fyddai’n uned breswyl oni bai am reoliadau a wneir o dan adran 5(6)(a));
(b)
sylfeini, waliau allanol neu do unrhyw ran o’r adeilad sydd i’w meddiannu at ddibenion busnes neu ymgymeriad (pa un ai er elw ai peidio).
(5)
Mae is-adran (3) yn ddarostyngedig i adrannau 10 a 11 (penderfyniad gan awdurdod diogelwch adeiladau neu dribiwnlys eiddo preswyl).