RHAN 2DIOGELWCH TÂN MEWN TAI AMLFEDDIANNAETH PENODOL
Dyletswyddau meddianwyr tai amlfeddiannaeth perthnasol
89Mynediad gan ddeiliaid dyletswydd at ddibenion asesu a rheoli risgiau diogelwch tân
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys pan—
(a)
bo deiliad dyletswydd ar gyfer tŷ amlfeddiannaeth perthnasol yn gwneud cais am fynediad i ran o’r tŷ amlfeddiannaeth perthnasol a bennir yn y cais (“y rhan benodedig”),
(b)
gwneir y cais i feddiannydd o’r rhan benodedig sy’n 18 oed neu’n hŷn,
(c)
bo’r cais yn cael ei wneud at ddiben a grybwyllir yn is-adran (2),
(d)
bo’r cais yn cydymffurfio ag is-adran (3), ac
(e)
na roddir mynediad i’r rhan benodedig.
(2)
Y dibenion yw galluogi’r deiliad dyletswydd—
(a)
i gydymffurfio ag adrannau 81 i 84 neu reoliadau a wneir o dan yr adrannau hynny (asesu risgiau diogelwch tân), pan mai’r deiliad dyletswydd yw landlord y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol;
(b)
i gydymffurfio ag adran 85 neu reoliadau a wneir oddi tani (rheoli risgiau diogelwch tân).
(3)
Mae cais yn cydymffurfio â’r is-adran hon os yw—
(a)
yn ysgrifenedig,
(b)
yn nodi’r diben y gwneir y cais ar ei gyfer,
(c)
yn esbonio pam ei bod yn angenrheidiol mynd i’r rhan benodedig o’r tŷ amlfeddiannaeth perthnasol at y diben hwnnw,
(d)
yn gofyn am fynediad ar ddyddiad, ac amser, sy’n rhesymol, ac
(e)
yn cael ei roi i’r meddiannydd o leiaf 48 awr cyn hynny.
(4)
Caiff y deiliad dyletswydd wneud cais i dribiwnlys eiddo preswyl am orchymyn mynediad i dŷ amlfeddiannaeth.
(5)
Ond ni chaiff deiliad dyletswydd wneud cais am orchymyn mynediad i dŷ amlfeddiannaeth oni bai bod y deiliad dyletswydd wedi rhoi hysbysiad i’r awdurdod diogelwch tân ar gyfer y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol yn nodi’r bwriad i wneud cais am orchymyn o’r fath mewn cysylltiad â’r meddiannydd a’r tŷ amlfeddiannaeth perthnasol (y mae rhaid i’r ddau ohonynt gael eu pennu yn yr hysbysiad).
(6)
Mae gorchymyn mynediad i dŷ amlfeddiannaeth yn orchymyn sydd—
(a)
yn ei gwneud yn ofynnol i’r meddiannydd ganiatáu i’r deiliad dyletswydd fynd i’r rhan benodedig o’r tŷ amlfeddiannaeth perthnasol ar amser rhesymol at y diben a nodir yn y cais o dan is-adran (3)(b), a
(b)
os yw’n angenrheidiol at y diben hwnnw, yn awdurdodi’r person sy’n mynd i’r rhan benodedig yn unol â’r gorchymyn i fesur neu brofi unrhyw beth, neu gymryd samplau, ffotograffau neu recordiadau.
(7)
Caiff tribiwnlys eiddo preswyl wneud gorchymyn mynediad i dŷ amlfeddiannaeth os yw’n fodlon ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny at y diben a nodir yn y cais o dan is-adran (3)(b).
(8)
Rhaid i orchymyn mynediad i dŷ amlfeddiannaeth bennu dyddiad y caniateir mynediad i’r rhan benodedig o’r tŷ amlfeddiannaeth perthnasol, neu gyfnod y caniateir i’r mynediad ddigwydd ynddo.