RHAN 2DIOGELWCH TÂN MEWN TAI AMLFEDDIANNAETH PENODOL

Darparu gwybodaeth a dogfennau sy’n ymwneud â thai amlfeddiannaeth perthnasol

87Gofyniad i ddeiliad dyletswydd roi gwybodaeth a dogfennau i bersonau eraill

(1)

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad dyletswydd ar gyfer tŷ amlfeddiannaeth perthnasol roi gwybodaeth berthnasol a bennir yn y rheoliadau, neu ddogfen berthnasol a bennir yn y rheoliadau, i—

(a)

awdurdod diogelwch tân y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol;

(b)

meddianwyr y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol;

(c)

unrhyw berson arall a bennir yn y rheoliadau.

(2)

Caiff y rheoliadau, yn benodol, wneud darpariaeth ynghylch—

(a)

pryd y mae rhaid rhoi gwybodaeth berthnasol neu ddogfen berthnasol;

(b)

sut y mae rhaid ei rhoi;

(c)

y ffurf y mae rhaid ei rhoi ynddi.

(3)

Caiff y rheoliadau osod gofynion yn ddarostyngedig i amodau neu eithriadau.

(4)

Caiff y rheoliadau, yn benodol—

(a)

darparu ei bod yn ofynnol i ddeiliad dyletswydd roi gwybodaeth berthnasol neu ddogfen berthnasol i berson dim ond os yw’r person wedi gofyn amdani;

(b)

gwneud darpariaeth ynghylch sut y mae cais i’w wneud.

(5)

Pan fo rheoliadau o dan yr adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth berthnasol neu ddogfen berthnasol gael ei rhoi i awdurdod diogelwch tân, cânt wneud darpariaeth ynghylch derbynioldeb yr wybodaeth neu’r ddogfen mewn unrhyw achos troseddol.

(6)

Yn yr adran hon, mae gwybodaeth a dogfennau yn “perthnasol” os ydynt yn ymwneud â’r tŷ amlfeddiannaeth perthnasol.