RHAN 2DIOGELWCH TÂN MEWN TAI AMLFEDDIANNAETH PENODOL

Darparu gwybodaeth a dogfennau sy’n ymwneud â thai amlfeddiannaeth perthnasol

86Gofyniad i roi gwybodaeth a dogfennau i ddeiliad dyletswydd

(1)

Pan fo’r is-adran hon yn gymwys, rhaid i berson sy’n berson perthnasol mewn perthynas ag adeilad roi gwybodaeth neu ddogfen i ddeiliad dyletswydd ar gyfer tŷ amlfeddiannaeth perthnasol yn yr adeilad (gweler hefyd erthygl 22E o’r Gorchymyn Diogelwch Tân).

(2)

At ddibenion yr adran hon, mae person yn berson perthnasol mewn perthynas ag adeilad os—

(a)

yw’r adeilad yn adeilad rheoleiddiedig a bod y person—

(i)

yn berson atebol ar gyfer yr adeilad;

(ii)

yn ddeiliad dyletswydd ar gyfer tŷ amlfeddiannaeth perthnasol yn yr adeilad;

(b)

yw’r person—

(i)

yn dal ystad gyfreithiol yn unrhyw ran o’r adeilad;

(ii)

yn dal ystad gyfreithiol yn unrhyw ran o fangre sy’n ffurfio rhan o’r un strwythur neu set o strwythurau â’r adeilad ac sy’n gyfan gwbl neu’n rhannol uwch ben neu o dan yr adeilad.

(3)

Mae is-adran (1) yn gymwys pan—

(a)

bo’r wybodaeth neu’r ddogfen yn angenrheidiol i’r deiliad dyletswydd gydymffurfio â gofyniad o dan y Ddeddf hon neu reoliadau a wneir oddi tani,

(b)

bo’r deiliad dyletswydd yn rhoi i’r person perthnasol gais ysgrifenedig sy’n—

(i)

datgan y gwneir y cais yn unol â’r adran hon,

(ii)

esbonio pam y mae’r wybodaeth neu’r ddogfen yn ofynnol gan y deiliad dyletswydd,

(iii)

datgan y cyfeiriad y mae rhaid rhoi’r wybodaeth neu’r ddogfen iddo, a

(iv)

datgan bod rhaid rhoi’r wybodaeth neu’r ddogfen cyn diwedd dyddiad penodedig heb fod yn llai na 14 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y rhoddir y cais,

(c)

bo’n rhesymol i’r person perthnasol roi i’r deiliad dyletswydd yr wybodaeth neu’r ddogfen, a

(d)

yn achos cais am wybodaeth, ni all y deiliad dyletswydd wneud cais am yr wybodaeth gan y person perthnasol o dan adran 88(4).

(4)

Nid yw datgelu gwybodaeth neu ddogfen yn unol â’r adran hon yn torri—

(a)

unrhyw rwymedigaeth gyfrinachedd sy’n ddyledus gan y person sy’n gwneud y datgeliad, neu

(b)

unrhyw gyfyngiad arall ar ddatgelu gwybodaeth neu ddogfen (sut bynnag y caiff ei osod).

(5)

Ond gweler hefyd adran 183A o Ddeddf Diogelu Data 2018 (p. 12) (diogelu gofynion ar gyfer prosesu data personol).

(6)

Yn yr adran hon, mae cyfeiriadau at berson atebol yn cynnwys person sy’n cael ei drin fel person atebol yn rhinwedd adran 36.