RHAN 2DIOGELWCH TÂN MEWN TAI AMLFEDDIANNAETH PENODOL
Asesu a rheoli risgiau diogelwch tân mewn tai amlfeddiannaeth perthnasol
85Rheoli risgiau diogelwch tân gan ddeiliaid dyletswydd
(1)
Rhaid i bob deiliad dyletswydd ar gyfer tŷ amlfeddiannaeth perthnasol gymryd pob cam rhesymol i—
(a)
atal risg diogelwch tân rhag cael ei gwireddu mewn perthynas â’r tŷ amlfeddiannaeth perthnasol, a
(b)
lleihau difrifoldeb unrhyw ddigwyddiad sy’n deillio o wireddiad risg o’r fath.
(2)
Rhaid i’r camau y mae deiliad dyletswydd yn eu cymryd, yn benodol, gynnwys pob cam rhesymol i—
(a)
lleihau’r tebygolrwydd y bydd tân yn cychwyn (pa un ai’n ddamweiniol neu’n fwriadol) yn y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol;
(b)
lleihau’r tebygolrwydd y bydd unrhyw dân sy’n cychwyn yn y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol neu’n agos ato yn lledaenu ynddo, iddo neu ohono;
(c)
sicrhau bod pobl yn y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol neu o’i amgylch y mae eu diogelwch mewn perygl oherwydd tân yn y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol yn gallu dianc yn gyflym ac yn ddiogel;
(d)
sicrhau y gellir ymladd unrhyw dân yn y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol yn brydlon ac yn effeithiol.
(3)
Caiff y camau y mae deiliad dyletswydd yn eu cymryd o dan yr adran hon gynnwys gwneud gwaith i’r tŷ amlfeddiannaeth perthnasol.
(4)
Wrth benderfynu ar y camau sydd i’w cymryd o dan yr adran hon, rhaid i ddeiliad dyletswydd roi sylw penodol i’r asesiad risg tân ar dŷ amlfeddiannaeth cyfredol ar gyfer y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol.
(5)
Rhaid cymryd camau sy’n ofynnol gan yr adran hon yn brydlon.
(6)
Rhaid i ddeiliad dyletswydd—
(a)
gwneud trefniadau i sicrhau y caiff y camau a gymerir gan y deiliad dyletswydd o dan yr adran hon eu cynllunio, eu trefnu, eu rheoli, eu monitro a’u hadolygu’n effeithiol, a
(b)
rhoi effaith i’r trefniadau hynny.
(7)
Rhaid i ddeiliad dyletswydd sicrhau y caiff cofnod ysgrifenedig ei wneud o—
(a)
trefniadau y mae’r deiliad dyletswydd yn eu gwneud o dan yr adran hon, a
(b)
camau y mae’r deiliad dyletswydd yn eu cymryd o dan yr adran hon.
(8)
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—
(a)
gwneud darpariaeth ynghylch yr hyn sy’n gamau rhesymol at ddibenion yr adran hon;
(b)
pennu materion y mae rhaid i ddeiliad dyletswydd roi sylw iddynt, neu egwyddorion y mae rhaid i ddeiliad dyletswydd weithredu yn unol â hwy, wrth benderfynu ar y camau i’w cymryd o dan yr adran hon neu wrth gymryd y camau;
(c)
pennu gofynion y mae rhaid i drefniadau o dan yr adran hon gydymffurfio â hwy;
(d)
pennu gwybodaeth y mae rhaid ei chynnwys mewn cofnod ysgrifenedig o’r trefniadau a wnaed, neu gamau a gymerir, o dan yr adran hon.
(9)
Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (8), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag—
(a)
pob awdurdod tai lleol yng Nghymru,
(b)
pob awdurdod diogelwch tân, ac
(c)
unrhyw bersonau eraill y maent yn ystyried eu bod yn briodol.