RHAN 2DIOGELWCH TÂN MEWN TAI AMLFEDDIANNAETH PENODOL
Asesu a rheoli risgiau diogelwch tân mewn tai amlfeddiannaeth perthnasol
84Darpariaeth bellach am asesiadau risg tân ar dŷ amlfeddiannaeth
(1)
Rhaid i landlord tŷ amlfeddiannaeth perthnasol sicrhau—
(a)
y cofnodir yn ysgrifenedig ganfyddiadau pob asesiad risg tân ar dŷ amlfeddiannaeth ac adolygiad sy’n ymwneud â’r tŷ amlfeddiannaeth perthnasol, a
(b)
pan fo mwy nag un deiliad dyletswydd ar gyfer y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol, y rhoddir copïau i bob deiliad dyletswydd arall.
(2)
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—
(a)
gwneud darpariaeth ynghylch cyfrifo’r cyfnodau ar gyfer gwneud ac adolygu asesiadau risg tân ar dŷ amlfeddiannaeth pan fo bwlch ym meddiannaeth adeilad, neu ran o adeilad, fel tŷ amlfeddiannaeth perthnasol;
(b)
pennu materion y mae rhaid eu hystyried fel rhan o asesiad risg tân ar dŷ amlfeddiannaeth neu adolygiad;
(c)
gwneud darpariaeth ynghylch y fethodoleg y mae rhaid ei defnyddio wrth wneud neu adolygu asesiad;
(d)
pennu gwybodaeth y mae rhaid ei chynnwys yng nghofnod ysgrifenedig asesiad neu adolygiad.
(3)
Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (2), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag—
(a)
pob awdurdod tai lleol yng Nghymru,
(b)
pob awdurdod diogelwch tân, ac
(c)
unrhyw bersonau eraill y maent yn ystyried eu bod yn briodol.
(4)
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ar gyfer galluogi landlord tŷ amlfeddiannaeth perthnasol i adennill costau perthnasol oddi wrth unrhyw berson arall sy’n ddeiliad dyletswydd ar gyfer y tŷ amlfeddiannaeth perthnasol, ac mewn cysylltiad â hynny.
(5)
Yn is-adran (4) ystyr “costau perthnasol” yw unrhyw gostau yr aed iddynt neu yr eir iddynt gan y landlord mewn cysylltiad ag asesiad risg tân ar dŷ amlfeddiannaeth neu adolygiad.